Yevgenia Ginzburg
Yevgenia Ginzburg | |
---|---|
Ganwyd | 20 Rhagfyr 1904, 20 Rhagfyr 1903, 1904 Moscfa |
Bu farw | 25 Mai 1977 Moscfa |
Man preswyl | Karl Marx Urama, 55 |
Dinasyddiaeth | Rwsia |
Addysg | Ymgeisydd ym maes Natur |
Alma mater | |
Galwedigaeth | newyddiadurwr, llenor |
Cyflogwr | |
Plaid Wleidyddol | Plaid Gomiwnyddol yr Undeb Sofietaidd |
Plant | Vasily Aksyonov |
Awdures a newyddiadurwr o Rwsia oedd Yevgenia Ginzburg (Rwsieg: Евге́ния Соломо́новна Ги́нзбург; 20 Rhagfyr 1904[1] - 25 Mai 1977) a dreuliodd 18 mlynedd yng ngharchar Sofietaidd y Gwlag oherwydd ei daliadau. Lladineiddiwr ei henw cyntaf, ar adegau, i Eugenia.[2] Roedd Vasily Aksyonov yn blentyn iddi.
Ffilmiwyd Within the Whirlwind gan y cyfarwyddwr Marleen Gorris yn 2008. Mae'r ffilm yn cynnwys yr actores Emily Watson fel Yevgenia Ginzburg, gyda Pam Ferris a Ben Miller mewn rolau eraill; fe'i rhyddhawyd yn 2010.
Fe'i ganed yn Moscfa, prifddinas Rwsia a bu farw yno hefyd; fe'i claddwyd ym Mynwent Kuzminskoye, Moscfa.[3][4][5][6][7]
Magwraeth
[golygu | golygu cod]Ei rhieni oedd Solomon Natanovich Ginzburg (fferyllydd Iddewig) a Revekka Markovna Ginzburg. Symudodd y teulu i Kazan ym 1909. Wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol y Dyniaethau ac Addysg, Tatar.[8]
Prifysgol
[golygu | golygu cod]Ym 1920, dechreuodd astudio gwyddorau cymdeithasol ym Mhrifysgol Talaith Kazan, gan newid yn ddiweddarach i addysgeg. Gweithiodd fel athrawes rabfak (рабфак, рабочий факультет, cyfadran gweithwyr). Yn Ebrill 1934, cadarnhawyd Ginzburg yn swyddogol fel 'docen' (cyfwerth ag athro cyswllt ym mhrifysgolion Cymru), gan arbenigo yn hanes y Blaid Gomiwnyddol yr Undeb cyfan. Yn fuan wedi hynny, ar 25 o Fai cafodd ei henwi’n bennaeth yr adran newydd ei chreu yn hanes Leniniaeth. Fodd bynnag, erbyn cwymp 1935, fe’i gorfodwyd i adael y brifysgol.[9]
Priododd gyntaf â meddyg Dmitriy Fedorov, a chawsant fab, Alexei Fedorov, a anwyd ym 1926. Bu farw Dmitriy ym 1941 yn ystod gwarchae Leningrad. Tua 1930, priododd Pavel Aksyonov, maer (председатель горсовета) o Kazan ac aelod o Bwyllgor Gweithredol Canolog (ЦИК) yr Undeb Sofietaidd. Daeth ei mab trwy'r briodas hon, Vasily Aksyonov, a anwyd ym 1932, yn awdur adnabyddus. Ar ôl dod yn aelod o'r Blaid Gomiwnyddol, parhaodd Ginzburg â'i gyrfa lwyddiannus fel addysgwr, newyddiadurwr a gweinyddwr.
Erledigaeth a charchar
[golygu | golygu cod]Yn dilyn llofruddiaeth Sergei Mironovich Kirov ar 1 Rhagfyr 1934, cyhuddwyd Ginzburg, fel llawer o gomiwnyddion eraill, o gymryd rhan mewn "grŵp Trotskyist gwrth-chwyldroadol". Yna, ar 15 Chwefror 1937, fe’i harestiwyd a'i chyhuddo o gymryd rhan mewn gweithgaredd gwrth-chwyldroadol yng ngrŵp El’vov. O'r cyhwyn un, ac yn wahanol i'r mwyafrif o'r rhai o'i chwmpas, gwadodd gyhuddiadau'r NKVD (Comisâr y Bobl ar gyfer Materion Mewnol; neu mewn Rwsieg: Narodnyy Komissariat Vnutrennikh Del) ac ni chyfaddefodd iddi chwarae unrhyw rôl yn y sefydliad Trotskyaidd gwrth-chwyldroadol.[10][11]
Arestiwyd ei rhieni hefyd ond fe'u rhyddhawyd ddeufis yn ddiweddarach. Cafodd ei gŵr ei arestio ym mis Gorffennaf, ei ddedfrydu i 15 mlynedd o “lafur cywirol,” ac atafaelwyd ei eiddo o dan Erthyglau 58-7 ac 11 o God Cosbi RSFSR.
Dedfrydodd cyfarfod caeedig o Goleg Milwrol Goruchaf Lys yr Undeb Sofietaidd hi i 10 mlynedd o garchar gan amddifadu ei hawliau gwleidyddol am bum mlynedd ac atafaelu ei holl eiddo personol. Cyhoeddwyd bod y dyfarniad yn derfynol heb unrhyw bosibilrwydd o apelio. Yn ddiweddarach, ysgrifennodd Ginzburg, mewn llythyr at gadeirydd Presidium Goruchaf Sofietaidd yr Undeb Sofietaidd, fod ei 'threial' cyfan wedi cymryd saith munud, gan gynnwys cwestiynu a darllen y dyfarniad.[12]
Ym mis Chwefror 1949, rhyddhawyd Ginzburg o system Gwlag, ond bu'n rhaid iddi aros ym Magadan am bum mlynedd. Daeth o hyd i swydd mewn meithrinfa a dechreuodd ysgrifennu ei chofiannau yn y dirgel. Fodd bynnag, yn Hydref 1949, cafodd ei harestio eto a'i halltudio i ranbarth Krasnoyarsk, ond ar ei chais hi newidiwyd ei chyrchfan i Kolyma ar y funud olaf. Ni roddwyd unrhyw reswm erioed dros yr ail arest a'r alltudiaeth a ddilynodd hynny.
Llyfrau
[golygu | golygu cod]- 1967 Journey into the Whirlwind. Harvest/HBJ Book. ISBN 0-15-602751-8[13].
- 1982 Within the Whirlwind. Harvest/HBJ Book. ISBN 0-15-697649-8.
Anrhydeddau
[golygu | golygu cod]
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Barbara Evans Clements, A History of Women in Russia: From Earliest Times to the Present (Bloomington, IN: Indiana University Press, 2012), t. 235).
- ↑ A. L. Litvin (comp.) Dva sledstvennykh dela Evgenii Ginzburg (Kazanʹ: Knizhnyĭ Dom: Taves, 1994), t. 23.
- ↑ Cyffredinol: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
- ↑ Rhyw: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. Gemeinsame Normdatei. dyddiad cyrchiad: 18 Gorffennaf 2024.
- ↑ Dyddiad geni: Gemeinsame Normdatei. dyddiad cyrchiad: 17 Hydref 2015. "Eugenia Ginzburg". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Eugenia Ginzburg". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
- ↑ Dyddiad marw: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 27 Ebrill 2014 ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. "Eugenia Ginzburg". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Eugenia Ginzburg". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Evguénia Guinzbourg".
- ↑ Man geni: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 12 Rhagfyr 2014
- ↑ Dva sledstvennykh dela Evgenii Ginzburg, tt. 13, 16.
- ↑ Dva sledstvennykh dela Evgenii Ginzburg, t. 19.
- ↑ Dva sledstvennykh dela Evgenii Ginzburg, t. 21.
- ↑ 'Dva sledstvennykh dela Evgenii Ginzburg, dogfen 8, t. 27.
- ↑ Dva sledstvennykh dela Evgenii Ginzburg, t. 6.
- ↑ https://www.nytimes.com/1981/07/12/books/a-gulag-story.html