Y tymor

Oddi ar Wicipedia

Adeg y flwyddyn pan fo cylchoedd uchaf cymdeithas yn cynnal digwyddiadau, yn enwedig ym Mhrydain, yw'r tymor, tymor y boneddigion[1] neu'r tymor ffasiynol[1] (Saesneg: the season neu the social season). Mae'r tymor yn cynnwys dawnsiau, ciniawau gwadd, digwyddiadau elusennol, digwyddiadau hamdden, a thwrnameintiau chwaraeon.

Gŵyl Opera Glyndebourne ym mis Awst

Ym Mhrydain mae'r tymor yn digwydd yn bennaf yn ystod yr haf. Yn hanesyddol bu'r tymor i'r dosbarth uchaf a'r bonedd, gyda phwyslais ar débutantes, ond bellach ystyrid yn ffenomen i'r dosbarth canol yn ogystal â'r aristocratiaeth.

Tri phrif digwyddiad y tymor Seisnig yw Ascot, Regata Frenhinol Henley, a Wimbledon. Mae'r mwyafrif o'r digwyddiadau wedi'u lleoli yn Lloegr, a nifer ohonynt yn Llundain, ond mae rhai yn digwydd yn yr Alban, megis Gŵyl Caeredin, a Chymru, megis Sioe Frenhinol Cymru.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 Griffiths, Bruce a Jones, Dafydd Glyn. Geiriadur yr Academi (Caerdydd, Gwasg Prifysgol Cymru, 1995 [argraffiad 2006]), t. 1233 [the Paris/London &c season].

Ffynonellau[golygu | golygu cod]

  • Noel, Celestria. Debrett's Guide to The Season (2000).