Y Tŷ Gwyn, Abermaw
Enghraifft o'r canlynol | adeilad |
---|---|
Lleoliad | Abermaw |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Rhanbarth | Abermaw |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
- Gweler hefyd Tŷ Gwyn (gwahaniaethu).
Tŷ canoloesol yn Abermaw, Gwynedd yw'r Tŷ Gwyn. Cafodd ei godi tua'r flwyddyn 1445 ac mae'n adnabyddus yn bennaf oherwydd ei gysylltiad â Siasbar Tudur, ewythr Harri Tudur, a'i ymgyrchoedd yng Nghymru yn ystod Rhyfeloedd y Rhosynnau. Erbyn 1565 dim ond pedwar tŷ oedd yn Abermaw a'r Tŷ Gwyn oedd un ohonynt. Saif yn ymyl yr harbwr ger y traeth ar lan Bae Ceredigion. Erbyn heddiw dyma'r adeilad hynaf yn y dref sydd wedi goroesi.[1]
Hanes
[golygu | golygu cod]Codwyd y Tŷ Gwyn tua 1445 neu'n fuan wedyn gan yr uchelwr lleol Gruffudd Fychan o blas Corsygedol yn Ardudwy. Roedd hynny yn ystod Rhyfeloedd y Rhosynnau ac adeiladwyd y tŷ er mwyn hwyluso'r ffordd i Siasbar Tudur fynd a dod i'r rhan honno o Gymru (yr oedd mam Gruffudd yn nith i Owain Glyn Dŵr ac yn gyfyrdyres i Siasbar Tudur). Pan gafodd ei godi, roedd y tŷ yn sefyll ar ymyl y traeth (mae ffordd rhyngddo a'r traeth erbyn heddiw) gyda'r rhan isaf, sy'n cynnwys tŷ cychod, ar y traeth ei hun gan alluogi rhywun i lanio neu ymadael ohono heb dynnu sylw.[2]
Tŷ carreg ydyw, a'r cerrig o liw glas, gyda seler a thri llawr iddo. Roedd yn wyngalchog yn yr Oesoedd Canol. Roedd ei ffenestri gwydr yn destun rhyfeddod am fod gwydr mor ddrud yn y cyfnod hwnnw ac felly'n anghyffredin.[2]
Roedd y Tŷ Gwyn yn un o gyrchfannau Beirdd yr Uchelwyr yn ail hanner y 15g. Cedwir ar glawr cywydd iddo gan y bardd Tudur Penllyn.[2]
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Tudur Penllyn, 'I'r Tŷ Gwyn yn Abermo'. Thomas Roberts (gol.), Gwaith Tudur Penllyn ac Ieaun ap Tudur Penllyn (Gwasg Prifysgol Cymru, 1958). Cerdd 16.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "BarmouthBreaks.co.uk". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-04-18. Cyrchwyd 2015-01-27.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 Enid Roberts, Tai Uchelwyr y Beirdd 1350-1650 (Cyhoeddiadau Barddas, 1986).