Y Perlau

Oddi ar Wicipedia
Y Perlau
Enghraifft o'r canlynolband Edit this on Wikidata
IaithCymraeg Edit this on Wikidata
Dod i'r brig1968 Edit this on Wikidata
Dod i ben1970 Edit this on Wikidata
GenrePop Cymraeg Edit this on Wikidata
Arwyddbost Llanbedr Pont Steffan, tref Y Perlau

Grŵp canu pop Cymraeg ysgafn o'r 1960au hwyr oedd Y Perlau. Roeddynt yn dair merch o ardal Llanbedr Pont Steffan ac yn canu caneuon gwreiddiol yn arddull nifer o grwpiau acwstig Cymraeg y cynfod. Bu iddynt ymddangos ar deledu Cymraeg y cyfnod.[1]

Ni ddylid drysu â Perlau Tâf, grŵp arall tebyg o Hendy-gwyn a atododd 'Tâf' i'w henw wedi deall bod grŵp o'r enw 'Y Perlau' eisoes wedi eu sefydlu.

Aelodau[golygu | golygu cod]

Sefydlodd Dawn Evans, Rosalind Lloyd, a Llinos Jones grŵp 'Y Perlau' ym mis Mawrth 1968. Roedd ganddynt brofiad o ganu penillion ac yn gyfeillion cyn ffurfio'r grŵp. Wrth recordio'r record gyntaf roedd Dawn yn gweithio yng nghaffi ei rhieni ar brif stryd Llambed, Rosalind yn gweithio mewn swyddfa cyfreithiwr, a Llinos, oedd yn cyfansoddi nifer o'r caneuon a'r geiriau, yn byw ym mhentref Cellan ac yn ddisgybl ysgol ar y pryd.[2]

Aeth Rosalind ymlaen i briodi Myrddin Owen o grŵp Hogia'r Wyddfa gan ffurfio'r ddeuawd boblogaidd yn yr 1980au a'r 1990au Rosalind a Myrddin.

Disgyddiaeth[golygu | golygu cod]

Cyhoeddwyd dau record gan y grŵp:[3]

Caneuon: A1: Cariad, A2: Draw Dros Y Don. B1: Cyfamod, B2: Y Gamfa Goed.
Caneuon: A1: La La La, A2: Tan Olaur Haul'. B1: Dyffryn Fy Mreuddwydion, B2: Gitarau Mwyn.

Record Amlgyfrannog[golygu | golygu cod]

Bu i gân La, La, La Y Perlau ymddangos ar record hir amlgyfrannog Rhannu Hen Gyfrinachau Lleisiau merched canu pop a gwerin Cymru 1965-1975 a gyhoeddwyd gan Recordiau Sain yn 2017.[4]

Dolenni allannol[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Y Perlau Discography". 45cat. Cyrchwyd 18 Ebrill 2024.
  2. "Y Perlau Discography". 45cat. Cyrchwyd 18 Ebrill 2024.
  3. "Y Perlau Discography". 45cat. Cyrchwyd 18 Ebrill 2024.
  4. "Rhannu Hen Gyfrinachau Lleisiau merched canu pop a gwerin Cymru 1965-1975". Gwefan Recordiau Sain. 2017. Cyrchwyd 18 Ebrill 2024.
Eginyn erthygl sydd uchod am gerddoriaeth Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato