Rosalind a Myrddin
Gwedd
Deuawd cerddorol oedd Rosalind a Myrddin.[1] Daeth y pâr priod i amlygrwydd cenedlaethol gyntaf fel aelodau o ddau grwp gwahanol – Rosalind o’r Perlau o ardal Llanbedr Pont Steffan, a Myrddin Owen o Hogia'r Wyddfa o ardal Llanberis, a’r ddau grwp fel ei gilydd â’u gwreiddiau’n ôl yn y chwedegau.
O’r gân gyntaf, daethom yn ymwybodol fod gan y ddau lais yn asio’n arbennig iawn – llais cryf soniarus Rosalind yn cyfuno’n effeithiol gyda llais meddalach Myrddin i ffurfio un o ddeuawdau mwyaf poblogaidd a welodd Cymru erioed.
Bu'r ddeuawd yn eu hanterth rhwng 1979 ac 1986, gan recordio pedwar o recordiau a sawl cyfres deledu ar S4C.
Bellach, mae'r ddau yn byw ym Mhwllheli.
Disgyddiaeth
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Rosalind a Myrddin - Cantorion a Diddanwyr"; Gwefan Cyngor Tref Pwllheli; adalwyd 12 Medi 2021