Y Faenol Fawr

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Codwyd Y Faenol Fawr, Bodelwyddan, Sir Ddinbych, yn 1597 gan John Lloyd, cofrestrydd Llanelwy. Roedd gan Thomas Myddelton hefyd gysylltiad a'r lle. Un o nodweddion mwyaf trawiadol y plasty yw'r talcennau ar ffurf grisiau. Heddiw, mae'r mynediad a'r cyntedd gerllaw'r parlwr, ond mae'n anhebyg iawn mai dyma oedd yn wreiddiol. Mae darlun gan yr arlunydd Moses Griffith tua'r flwyddyn 1770 yn dangos y mynediad yng nghanol yr adeilad.

Mae'r hen blasdy yn westy heddiw.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

CymruDinbych.png Eginyn erthygl sydd uchod am Sir Ddinbych. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato