Y Ddraig Dderw

Oddi ar Wicipedia
Y Ddraig Dderw

Cerflun pren o ddraig a leolir ar ochr ffordd yr A5 o Fethesda i Dregarth yng ngogledd Gwynedd yw Y Ddraig Dderw. Cafodd ei gerfio o dderwen hollt gyda llif gadwyn gan Simon O'Rourke o'r Orsedd ger Wrecsam, ar gais y Dr Ben Alofs, perchennog y goedfa. Treuliodd y cerflunydd chwe diwrnod yn creu'r gwaith. Cafodd hyd y corff, o'r pen i'r gynffon, ei gerfio o'r boncyff fel y gorweddai, a chafodd yr adenydd a'r coesau eu torri o'r coed a'u codi i'w mannau priodol. Mae'n mesur rhyw 7.6 metre (25 ft) o hyd.[1][2]

Disgrifiad y papur bro lleol, Llais Ogwan, ohoni oedd: "Pâr o lygaid, corff cyhyrog, adennydd urddasol, a dannedd miniocach na’r awel oer a’n hamgylchynna, a hyn oll yn ein gwylio’n gelfydd o noddfa gardd gyfagos."[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) "Y Ddraig Derw: An Adventure Worth Telling", gwefan Simon O'Rourke (25 Ionawr 2019). Adalwyd ar 3 Chwefror 2019.
  2. "Datrys dirgelwch draig Bethesda", BBC Cymru Fyw (22 Ionawr 2019). Adalwyd ar 3 Chwefror 2019.
  3. "Y Ddraig Dderw", Llais Ogwan (Chwefror 2019). Adalwyd ar 24 Mehefin 2019.