Llif gadwyn

Oddi ar Wicipedia

Llif fecanyddol gludadwy yw llif gadwyn a ddefnyddir i dorri neu docio coed a boncyffion. Ceir hefyd llifiau cadwyn arbennig sy'n gallu torri defnyddiau caletach. Pwerir gan amlaf gan fotor dwystroc, neu fel arall gan drydan, pŵer hydrolig, neu aer cywasgedig. Cadwyn o ddannedd miniog sydd yn torri'r defnydd. Mae rhai cerfwyr pren yn defnyddio llifiau cadwyn i gerfio cerfluniau o goed neu ddarnau mawr o bren.

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
Eginyn erthygl sydd uchod am offeryn. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.