Y Cymin
![]() | |
Math |
mynydd ![]() |
---|---|
| |
Daearyddiaeth | |
Sir |
Trefynwy ![]() |
Gwlad |
![]() |
Cyfesurynnau |
51.8097°N 2.6878°W ![]() |
Bryncyn bychan sydd a'i olwg tuag at Drefynwy ydy'r Kymin (neu'r Cymin): oddeutu un filltir i'r dwyrain o'r dref. Saif nepell o'r ffin â Swydd Gaerloyw. Mae copa'r bryn oddeutu 243 m (800 tr) o uchder ac mae'n enwog oherwydd adeilad gwahanol iawn a godwyd rhwng 1794 a 1800: "Y Tŷ Crwn".
Ffoledd ydy'r adeilad deulawr, mewn gwirionedd, ac fe'i codwyd yn wreiddiol gan grŵp o fonheddwyr a alwant eu hunain yn, "The Monmouth Picnic Club" neu weithiau: "Clwb y Cymin". Dyn o'r enw Philip Meakins Hardwick oedd eu harweinydd. Roedd Dug Beuafort ac 8 Aelod Seneddol yn eu plith hefyd. Daethant ynghyd yn wythnosol i drafod materion cymdeithasol y dydd. Codwyd yr adeilad ar eu cyfer, gyda'r ceginau ar y llawr gwaelod ac ystafell wledda uwch ei ben gyda thelesgopau cryfion.[1]
Y tu allan, roedd maes bowlio ac roedd stablau gerllaw. O'r to, lle'r arferwyd gosod y telesgopau yn yr haf, honir y gellir gweld 9 sir, tri o'r rheiny yng Nghymru: Sir Fynwy, Sir Forgannwg a Sir Frycheiniog.