Y Clwb, Llansanffraid Glan Conwy
![]() | |
Math | tafarn ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Llansanffraid Glan Conwy ![]() |
Sir | Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 53.270097°N 3.797385°W ![]() |
Cod post | LL28 5SP ![]() |
![]() | |
Mae Y Clwb yn dafarn cymunedol yn Llansanffraid Glan Conwy sy'n sefyll ar dir Cae Ffwt, maes chwarae, Clwb Pêl Droed Glan Conwy.
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/cy/thumb/7/74/TrywerynClwb.jpg/220px-TrywerynClwb.jpg)
Hanes[golygu | golygu cod]
Yn 2017 cynigwyd adeilad, nad oedd ei angen mwyach, gan Glwb pêl-droed Rhuthun [1], i'r sawl oedd yn fodlon ei dderbyn. Wedi arolwg gan swyddogion clwb Llansanffraid Glan Conwy, penderfynwyd bod modd symud yr adeilad a'i droi yn far ar gyfer y maes pêl-droed leol. Symudwyd yr adeilad trwy garedigrwydd cwmni lleol Buckleys [2], heb iddynt godi tal am y gwaith
Rhoddodd y cwmni adeiladu lleol Cwmni Brenig llawer o wasanaeth rhad i'r prosiect [3] o droi'r adeilad yn dafarn.
Agorwyd y Clwb yn swyddogol ar 9 Mai, 2019 gan yr AC leol Janet Finch-Saunders.[4] Mae'r Clwb yn cael ei reoli gan Gwmni Budd Cymdeithasol [5] er mwyn cefnogi chwaraeon, adloniant a gweithgareddau cymdeithasol eraill yn y fro [6].
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ willcatterall. "Clwb Pêl Droed Rhuthun". Y Clwb Pêl-Droed. Cyrchwyd 2019-11-18.
- ↑ Buckley’s Mobile Crane Service adalwyd 19 Tachwedd 2019
- ↑ "Brenig | Construction & Civil Engineering | North Wales - Brenig Construction". brenigconstruction.co.uk. Cyrchwyd 2019-11-18.
- ↑ "Aberconwy AM Opens Community Bar in Glan Conwy". Janet Finch-Saunders. Cyrchwyd 2019-11-18.
- ↑ "GLAN CONWY SPORTS ASSOCIATION CIC - Overview (free company information from Companies House)". beta.companieshouse.gov.uk. Cyrchwyd 2019-11-18.
- ↑ "Glan Conwy community bar already benefits community organisations". North Wales Pioneer. Cyrchwyd 2019-11-18.