Clwb Pêl Droed Glan Conwy

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Glan Conwy
Enw llawn Clwb Pêl Droed Glan Conwy Football Club
Sefydlwyd 1979
Maes Cae Ffwt
Llansanffraid Glan Conwy
(sy'n dal: 220)
Cadeirydd CymruAlwyn ap Huw
Manager Cymru Howard Vaughan[1]
Cynghrair Cynghrair Undebol y Gogledd Adran 2
Green and white hooped jersey, green shorts and socks
Lliwiau Cartref

Mae Clwb Pêl Droed Glan Conwy yn dîm pêl droed Cymreig sy'n chware yng Nghynghrair Undebol y Gogledd [2]. Mae'r clwb yn aelod o Gymdeithas Pêl Droed Arfordir Gogledd Cymru.

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Ymunodd tîm o Lansanffraid Glan Conwy a Chynghrair Dyffryn Conwy, yn un o'r saith clwb i sefydlu'r cynghrair ym 1922, yr aelodau eraill oedd Dolgarrog, Celtiaid Penmaen, Hen Golwyn a thimau wrth gefn Cyffordd Llandudno, Llanrwst a Phenmaenmawr.

Y Jolly Boys tua 1938

Llys enw'r tîm oedd y Jolly Boys, enw sy'n dal i gael i dadogi ar y tîm cyfredol gan rhai o hynafgwyr y pentref.

Roedd y tîm yn chware ar Faes y Gala gan chware ar y maes ac yn y gynghrair hyd doriad yr Ail Ryfel Byd yn ystod tymor 1938/39. Ni fu sôn am ail sefydlu'r tîm wedi darfod y rhyfel, yn bennaf gan fod y maes chware yn cael ei ddefnyddio i dyfu cynudau i ddarparu bwyd.

Ym 1979 ail sefydlwyd Clwb Pêl droed ym mhentref Llansanffraid Glan Conwy gan ail ymuno a Chynghrair Dyffryn Conwy ym 1980, ond heb faes cartref gan chware ar gaeau timau eraill.

Parhaodd y tîm yng Nghynghrair Dyffryn Conwy am ddeunaw mlynedd, cyn cael eu dyrchafu i Gynghrair Gwynedd ym 1998. Ar ddiwedd eu tymor cyntaf yng Nghynghrair Gwynedd daeth y clwb i frig y tabl a chawsant eu dyrchafu i Gynghrair Undebol y Gogledd lle maent yn parhau hyd heddiw (tymor 2016/17)

Maes Chware[golygu | golygu cod y dudalen]

Agorwyd maes chware cartref i'r tîm ym 1998, sef Cae Ffwt, sydd ar lannau'r Afon Conwy ar gyrion pentref Llansanffraid Glan Conwy.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]