Wyn Thomas (actor)
Wyn Thomas | |
---|---|
Ganwyd | 1929 Penparcau |
Bu farw | Ionawr 2017 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | pensaer |
Actor radio a phensaer o Gymru oedd Wyn Thomas (1929 – Ionawr 2017) a gydnabyddir yn un o'r actorion radio cynharaf i weithio drwy gyfrwng y Gymraeg.
Bywyd cynnar
[golygu | golygu cod]Ganwyd ym Mhenparcau ger Aberystwyth a bu'n byw ym Mae Colwyn a Llundain, cyn ymgartrefu yng Nghaerdydd.
Yn 14 oed, cafodd ei gyfweliad cyntaf ar gyfer dramâu radio a bu'n actor ar radio drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg am ddegawdau. Bu'n cydweithio gydag actorion amlwg fel Siân Phillips, a Myfanwy Talog.[1]
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Roedd yn chwarae rhan Alec ar y gyfres radio 'SOS Galw Gari Tryfan', drama dditectif a ddarlledwyd gan y BBC yng y 1950au. Dywedodd y darlledwr Hywel Gwynfryn fod y gyfres yn "un o'r cyfresi mwyaf cyffrous fu ar y radio erioed" a roedd Wyn yn "arloeswr ym myd actio yn nyddiau cynnar dramau radio yng Nghymru".
Roedd yn bensaer wrth ei alwedigaeth, a cafodd ei ddisgrifio gan Sefydliad Tirwedd Cymru fel y pensaer tirwedd a oedd wedi gwneud y cyfraniad mwyaf yn hanes Cymru.[1]
Bywyd personol
[golygu | golygu cod]Priododd Anne Thomas a chawsant bedwar plentyn: Sion, Sara, Rhys a Nia a saith wyr: Alus, Beth, Wil, Harri, Elis, Nansi ac Ifan.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 1.2 Cofio actor radio arloesol 'SOS Galw Gari Tryfan' , BBC Cymru Fyw, 19 Ionawr 2017.