Neidio i'r cynnwys

Wyn Thomas (actor)

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriwyd o Wyn Thomas)
Wyn Thomas
Ganwyd21 Tachwedd 1928 Edit this on Wikidata
Penparcau Edit this on Wikidata
Bu farw14 Ionawr 2017 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethpensaer Edit this on Wikidata

Actor radio a phensaer o Gymru oedd Wyn Thomas (21 Rhagfyr 192814 Ionawr 2017)[1] a gydnabyddir yn un o'r actorion radio cynharaf i weithio drwy gyfrwng y Gymraeg. Roedd yn un o sefydlwyr Theatr Fach y Gegin yng Nghricieth.

Bywyd cynnar

[golygu | golygu cod]

Ganwyd ym Mhenparcau ger Aberystwyth a bu'n byw ym Mae Colwyn a Llundain, cyn ymgartrefu yng Nghaerdydd.

Yn 14 oed, cafodd ei gyfweliad cyntaf ar gyfer dramâu radio a bu'n actor ar radio drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg am ddegawdau. Bu'n cydweithio gydag actorion amlwg fel Siân Phillips, a Myfanwy Talog.[2]

Roedd yn chwarae rhan Alec ar y gyfres radio SOS Galw Gari Tryfan, drama dditectif a ddarlledwyd gan y BBC yng y 1950au. Dywedodd y darlledwr Hywel Gwynfryn fod y gyfres yn "un o'r cyfresi mwyaf cyffrous fu ar y radio erioed" a roedd Wyn yn "arloeswr ym myd actio yn nyddiau cynnar dramau radio yng Nghymru".

Roedd yn bensaer wrth ei alwedigaeth, a cafodd ei ddisgrifio gan Sefydliad Tirwedd Cymru fel y pensaer tirwedd a oedd wedi gwneud y cyfraniad mwyaf yn hanes Cymru.[2]

Bywyd personol

[golygu | golygu cod]

Priododd Anne Thomas a chawsant bedwar plentyn: Sion, Sara, Rhys a Nia a saith wyr: Alus, Beth, Wil, Harri, Elis, Nansi ac Ifan.[2] Bu farw yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd, 14 Ionawr 2017.[3]

Cynyrchiadau

[golygu | golygu cod]

Theatr

[golygu | golygu cod]

Dramâu Radio

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Find a Grave; adalwyd 26 Mai 2025
  2. 2.0 2.1 2.2 Cofio actor radio arloesol 'SOS Galw Gari Tryfan' , BBC Cymru Fyw, 19 Ionawr 2017.
  3. "The obituary notice of Wyn Thomas", Funeral Notices; adalwyd 26 Mai 2025