Wylun y borfa

Oddi ar Wicipedia
Wylun y borfa
Oedolyn
Lindysyn
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Arthropoda
Dosbarth: Insecta
Urdd: Lepidoptera
Teulu: Lasiocampidae
Genws: Lasiocampa
Rhywogaeth: L. trifolii
Enw deuenwol
Lasiocampa trifolii
Denis & Schiffermüller, 1775

Gwyfyn sy'n perthyn i urdd y Lepidoptera yw wylun y borfa, sy'n enw gwrywaidd; yr enw lluosog ydy wyluniau'r borfa; yr enw Saesneg yw Grass Eggar, a'r enw gwyddonol yw Lasiocampa trifolii.[1][2] Mae i'w ganfod ledled Ewrop. Mae'r ffurf Lasiocampa trifolii f. flava (wylun gwelw'r borfa, Pale Grass Eggar) i'w ganfod yn Dungeness, Caint yn unig.

40–55 mm ydy lled yr adenydd agored ac mae'n hedfan o Fehefin i Fedi, yn ddibynol ar ei leoliad.

Prif fwyd y lindys ydy'r dderwen, ffawydden, poplysen a Calluna.

Darlun allan o lyfr John Curtis: British Entomology, Cyfrol 5

Cyffredinol[golygu | golygu cod]

Gellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnyws mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd.

Wedi deor o'i ŵy mae wylun y borfa yn lindysyn sy'n bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1.  Gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Adalwyd ar 29 Chwefror 2012.
  2. Geiriadur enwau a thermau ar Wefan Llên Natur. Adalwyd 13/12/2012.