Theobald Wolfe Tone
Theobald Wolfe Tone | |
---|---|
Ganwyd | Theobald Wolfe Tone 20 Mehefin 1763 Dulyn |
Bu farw | 19 Tachwedd 1798 o gwaediad Dulyn |
Man preswyl | Dulyn |
Dinasyddiaeth | Gwyddel |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd, llenor, cyfreithiwr |
Swydd | Auditor of the College Historical Society |
Tad | Peter Tone |
Mam | Margaret Lambert |
Priod | Matilda Tone |
Plant | William Tone |
Cenedlaetholwr Gwyddelig ac un o brif arweinwyr Cymdeithas y Gwyddelod Unedig oedd Theobald Wolfe Tone, a adwaenir fel rheol fel Wolfe Tone (20 Mehefin 1763 – 19 Tachwedd 1798).
Ganed ef yn ninas Dulyn, i deulu Protestanaidd, ac astudiodd y gyfraith yng Ngholeg y Drindod, Dulyn, gan gymhwyso fel bargyfreithiwr. Yn 1791, cyhoeddodd Tone bamffled Argument on Behalf of the Catholics of Ireland, gan ddadlau dros undod rhwng Protestaniaid a Chatholigion. O ganlyniad i hyn, ffurfiwyd Cymdeithas y Gwyddelod Unedig mewn cyfarfod yn ninas Belffast ar 14 Hydref 1791, dan arweiniad Tone, Thomas Russell (1767-1803), Napper Tandy ac eraill.
Bwriad cyntaf y Gymdeithas oedd gweithio tuag at ddiwygiadau Seneddol, ond yn raddol troes at syniadau mwy radicalaidd Tone ei hun, ac anelu at greu gweriniaeth annibynnol. Yn 1794, daeth y Gymdeithas i gysylltiad ag arweinwyr y Chwyldro Ffrengig, ond bradychwyd eu trafodaethau ac yn 1795 bu raid i Tone ffoi i'r Unol Daleithiau. Yn Chwefror 1796, aeth i Ffrainc, lle cyfarfu a rhai o arweinwyr y Chwyldro ym Mharis. Rhoddwyd comisiwn yn y fyddin Ffrengig iddo.
Hwyliodd am Iwerddon gyda'r Cadfridog Hoche yn 1796, ond bu raid i'r llynges ddychwelyd i Ffrainc wedi methu glanio oherwydd tywydd garw. Pan ddechreuodd Gwrthryfel Gwyddelig 1798, hwyliodd Tone am Iwerddon gyda'r Llynghesydd Bompard. Cyfarfu'r llongau Ffrengig a llongau rhyfel Prydeinig ger Buncrana ar Lough Swilly ar 12 Hydref, 1798, a chymerwyd Tone yn garcharor pan ildiodd y llong yr oedd arni i'r Prydeinwyr.
Rhoddwyd ef ar ei brawf yn Nulyn, a dedfrydwyd ef i'w grogi, gan wrthod ei gais am farwolaeth fwy anrhydeddus trwy gael ei saethu. Cyn gweithredu'r ddedfryd, bu Tone farw o'i anafiadau wedi torri ei wddf â chyllell yn y carchar. Ystyrir ef yn un o sylfaenwyr cenedlaetholdeb Gwyddelig modern.