Theobald Wolfe Tone

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Theobald Wolfe Tone
Portrait of Theobald Wolfe Tone (4672711).jpg
Ganwyd 20 Mehefin 1763 Edit this on Wikidata
Dulyn Edit this on Wikidata
Bu farw 19 Tachwedd 1798 Edit this on Wikidata (35 oed)
Achos: gwaediad Edit this on Wikidata
Dulyn Edit this on Wikidata
Man preswyl Dulyn Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Gweriniaeth Iwerddon Gwyddel
Alma mater
Galwedigaeth Gwleidydd, Ysgrifennwr, Cyfreithiwr Edit this on Wikidata
Priod Matilda Tone Edit this on Wikidata
Plant William Tone Edit this on Wikidata

Cenedlaetholwr Gwyddelig ac un o brif arweinwyr Cymdeithas y Gwyddelod Unedig oedd Theobald Wolfe Tone, a adwaenir fel rheol fel Wolfe Tone (20 Mehefin 176319 Tachwedd 1798).

Ganed ef yn ninas Dulyn, i deulu Protestanaidd, ac astudiodd y gyfraith yng Ngholeg y Drindod, Dulyn, gan gymhwyso fel bargyfreithiwr. Yn 1791, cyhoeddodd Tone bamffled Argument on Behalf of the Catholics of Ireland, gan ddadlau dros undod rhwng Protestaniaid a Chatholigion. O ganlyniad i hyn, ffurfiwyd Cymdeithas y Gwyddelod Unedig mewn cyfarfod yn ninas Belffast ar 14 Hydref 1791, dan arweiniad Tone, Thomas Russell (1767-1803), Napper Tandy ac eraill.

Bwriad cyntaf y Gymdeithas oedd gweithio tuag at ddiwygiadau Seneddol, ond yn raddol troes at syniadau mwy radicalaidd Tone ei hun, ac anelu at greu gweriniaeth annibynnol. Yn 1794, daeth y Gymdeithas i gysylltiad ag arweinwyr y Chwyldro Ffrengig, ond bradychwyd eu trafodaethau ac yn 1795 bu raid i Tone ffoi i'r Unol Daleithiau. Yn Chwefror 1796, aeth i Ffrainc, lle cyfarfu a rhai o arweinwyr y Chwyldro ym Mharis. Rhoddwyd comisiwn yn y fyddin Ffrengig iddo.

Hwyliodd am Iwerddon gyda'r Cadfridog Hoche yn 1796, ond bu raid i'r llynges ddychwelyd i Ffrainc wedi methu glanio oherwydd tywydd garw. Pan ddechreuodd Gwrthryfel Gwyddelig 1798, hwyliodd Tone am Iwerddon gyda'r Llynghesydd Bompard. Cyfarfu'r llongau Ffrengig a llongau rhyfel Prydeinig ger Buncrana ar Lough Swilly ar 12 Hydref, 1798, a chymerwyd Tone yn garcharor pan ildiodd y llong yr oedd arni i'r Prydeinwyr.

Rhoddwyd ef ar ei brawf yn Nulyn, a dedfrydwyd ef i'w grogi, gan wrthod ei gais am farwolaeth fwy anrhydeddus trwy gael ei saethu. Cyn gweithredu'r ddedfryd, bu Tone farw o'i anafiadau wedi torri ei wddf â chyllell yn y carchar. Ystyrir ef yn un o sylfaenwyr cenedlaetholdeb Gwyddelig modern.