William Morris (AS Caerfyrddin)

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
William Morris
Ganwyd 25 Mehefin 1811 Edit this on Wikidata
Llangynnwr Edit this on Wikidata
Bu farw 25 Chwefror 1877 Edit this on Wikidata (65 oed)
Llangynog Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Galwedigaeth Aelod Seneddol, y Deyrnas Unedig, banciwr, Gwleidydd Edit this on Wikidata
Swydd Aelod o 19fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 18fed Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddol Plaid Ryddfrydol Edit this on Wikidata

Roedd William Morris (25 Mehefin 181125 Chwefror 1877) yn fancer ac yn wleidydd Cymreig a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Rhyddfrydol Bwrdeistref Caerfyrddin rhwng 1864 a 1868.[1]

Cefndir[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganwyd Morris yn Llangynnwr yn ail fab i Thomas Morris a Maria ei wraig.

Cafodd ei addysgu yn ysgol ramadeg Caerfyrddin[2] .

Ym 1847 priododd Magdalen Mary Anna merch Sackville F Gwynne, Parc Glanbrân. Bu iddynt dau fab ac un ferch.

Gyrfa[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn y 1780au agorodd hen dad-cu Morris banc yng Nghaerfyrddin o’r enw David Morris & sons. O dan reolaeth y meibion daeth yn fusnes hynod lwyddiannus a phan roddodd David Morris, ewythr William gore i’w gyfran ef o’r banc er mwyn bod yn Aelod Seneddol ym 1837 roedd yn werth tua £250,000 (gwerth tua £18 miliwn bellach[3]). Etifeddodd William a’i frawd hyn Thomas Charles Morris y banc gan ei redeg hyd 1871, pan werthwyd y cwmni i’r National Provincial Bank of England.

Gyrfa wleidyddol[golygu | golygu cod y dudalen]

Ar farwolaeth ei ewyrth David Morris ym 1864 etholwyd William i sedd Bwrdeistref Caerfyrddin yn ddiwrthwynebiad ar ran y Blaid Ryddfrydol. Cafodd ei ail ethol yn ddiwrthwynebiad yn etholiad cyffredinol 1865, ond torrodd ei iechyd a phenderfynodd sefyll i lawr o’r senedd ar adeg etholiad cyffredinol 1868.

Gwasanaethodd fel henadur ar Gorfforaeth Bwrdeistref Caerfyrddin am nifer o flynyddoedd a bu’n faer ar bedwar achlysur. Bu’n Ynad Heddwch ar fainc Sir Gaerfyrddin ac yn is raglaw’r sir. Gwasanaethodd fel Uchel Siryf ym 1858.[4]

Marwolaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu farw yn ei gartref Y Cwm (neu Coomb fel bu rhai yn ei sillafu), Llangynog yn 68 mlwydd oed.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. "DEATHOFMRWILLIAMMORRISIOFCWM - The Western Mail". Abel Nadin. 1877-02-26. Cyrchwyd 2017-09-06.
  2. 2.0 2.1 Thomas Nicholas, 1872 Annals and antiquities of the counties and county families of Wales; containing a record of all ranks of the gentry adalwyd 7 Medi 2017
  3. Value of British money at today's date adalwyd 22 Ionawr 2017
  4. Williams, William Retlaw, The parliamentary history of the Principality of Wales, from the earliest times to the present day, 1541-1895 adalwyd 7 Medi 2017
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
David Morris
Aelod Seneddol Bwrdeistref Caerfyrddin
1864-1868
Olynydd:
John Cowell-Stepney