David Morris (AS Caerfyrddin)
David Morris | |
---|---|
Ganwyd | 1800 Caerfyrddin |
Bu farw | 30 Medi 1864 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Aelod o 18fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 17eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 16eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 15fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 14eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o'r 13eg Senedd y Deyrnas Unedig |
Plaid Wleidyddol | Chwigiaid |
Roedd David Morris (1800 – 30 Medi 1864) yn gyfarwyddwr banc ac yn wleidydd Rhyddfrydol Cymreig a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Bwrdeistref Caerfyrddin rhwng 1837 a 1864[1].
Bywyd Personol
[golygu | golygu cod]Ganwyd David Morris yng Nghaerfyrddin yn fab hynaf William Morris, bancwr.
Roedd yn di briod
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Sefydlodd tad cu Morris banc yng Nghaerfyrddin, Morris & Sons yn y 1780au, bu David Morris yn gweithio yn y banc gan godi'n gyfarwyddwr iddi. Roedd cyfnod Morris fel cyfarwyddwr yn un llewyrchus i'r cwmni [2]; pan ymddeolodd ar gael ei ethol i'r Senedd ym 1837 roedd ganddo ffortiwn werth tua £250,000 (gwerth tua £18 miliwn bellach[3])
Gyrfa Wleidyddol
[golygu | golygu cod]Safodd yn etholiad cyffredinol 1837 fel Chwig, gan lwyddo i ddisodli 'r aelod Ceidwadol, David Lewis. Cafodd ei feirniadu yn hallt gan rhai sylwebyddion Rhyddfrydol am beidio â phledio achos Beca yn y Senedd ym 1839/40 [4], methodd y feirniadaeth i effeithio ar ei boblogrwydd fel aelod. Cadwodd y sedd (fel Rhyddfrydwr yn hytrach na Chwig, o 1859) hyd ei farwolaeth ym 1864 pan gafodd ei olynu gan ei nai William Morris. Yn y senedd ei ddiddordebau pennaf oedd materion ariannol ac addysg [5].
Marwolaeth
[golygu | golygu cod]Bu farw yn ei gartref yng Nghaerfyrddin wedi salwch byr yn 64 mlwydd oed a chladdwyd ei weddillion ym mynwent gyhoeddus Caerfyrddin.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ The parliamentary history of the principality of Wales, from the earliesr times to the present day, 1541-1895, comprising lists of the representatives, chronologically arranged under counties, with biographical and genealogical notices of the members, together with particulars of the various contested elections, double returns and petitions - William Retlaw Williams adalwyd 22 Ionawr 2017
- ↑ "Notitle - The Welshman". J. L. Brigstocke. 1864-10-07. Cyrchwyd 2017-01-22.
- ↑ Value of British money at today's date adalwyd 22 Ionawr 2017
- ↑ "No title - The Welshman". J. L. Brigstocke. 1844-11-22. Cyrchwyd 2017-01-22.
- ↑ "CARMARTHENSHIRE - The Welshman". J. L. Brigstocke. 1846-03-13. Cyrchwyd 2017-01-22.
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: David Lewis |
Aelod Seneddol Bwrdeistref Caerfyrddin 1837 – 1864 |
Olynydd: William Morris |