William Moreton Condry
Gwedd
William Moreton Condry | |
---|---|
Ganwyd | 1 Mawrth 1918 Birmingham |
Bu farw | 30 Mai 1998 Ysbyty Treforus, Abertawe |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Alma mater | |
Galwedigaeth | adaregydd |
Priod | Penny Condry |
Naturiaethwr oedd William Moreton Condry M.A., M.Sc. (1 Mawrth 1918 – 31 Awst 1998)[1], neu Bill Condry fel adnabyddwyd yn aml, a aned ar gyrion Birmingham. Roedd yn warden yn RSPB Ynys-hir ers y cychwyn yn 1969, wedi cael ei wahodd i fyw yno gan berchennog y stâd, Hugh Mappin, bu Condry a'i wraig Penny yn byw ym mwthyn Ynys Edwin ym mhentref Eglwys Fach ar y stâd ers 1959. Roedd Condry yn un o'r prif weithredwyr yn ymgyrch gadwriaeth y Barcud coch. Derbynodd MSc. anrhydedd gan Prifysgol Cymru yn 1980. Ysgrifennodd sawl llawlyfr a llyfrau natur. Hwyrach mai ei lyfr mwyaf adnabyddus oedd The Snowdonia National Park ( 1966), un o lyfrau'r gyfres naturiaethol y New Naturalist.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Plac goffa cyfraniad Condry drost ei oes yng nghuddfan Bill Condry, Ynys-hir.