William Jessop

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Peiriannydd sifil o nôd oedd William Jessop (23 Ionawr 174518 Tachwedd 1814), yn fwyaf adnabyddys am ei waith ar gamlesi, porthladdoedd a rheilffyrdd cynnar yn ystod diwedd yr 18fed a'r 19eg ganrif cynnar.

Dyddiau cynnar[golygu]

Ganwyd Jessop yn Devonport, Dyfnaint yn 1745, yn fab i Josias Jessop, fforman saer llongau yn y Porthladd Morol. Roedd Josias Jessop yn gyfrifol am drwsio a chynnal Tŵr Rudyerd, goleudy pren ar Eddystone. Cyflawnodd y dasg yma am ugain mlynedd hyd 1755, pan losgodd y goleudy i lawr. Creodd y peiriannydd sifil blaengar, John Smeaton, gynlluniau ar gyfer goleudy newydd carreg a daeth Josias yn gyfrifol am orolygu'r gwaith adeiladu. Daeth y ddau ddyn yn ffrindiau agos, a phan fu farw Josias yn 1761, dyflwydd ar ôll cwblhau'r goleudy, cymerwyd William Jessop ymlaen fel disgybl gan Smeaton (a oedd hefyd yn warcheidwar William Jessop), yn gweithio ar amryw o gamlesi yn Swydd Efrog.[1]

Gweithiodd Jessop fel cynorthwyydd i Smeaton am nifer o flynyddoedd cyn dechrau gweithio fel peiriannydd ar ei ben ei hun. Cynorthwyodd Smeaton gyda chamlesi Calder a Hebble a'r Aire a Calder yn Swydd Efrog.[1]

Ffynonellau[golygu]

  1. 1.0 1.1 Rolt, L.T.C., “Great Engineers”, 1962, G. Bell and Sons Ltd, ISBN