Willem Barentsz
Gwedd
(Ailgyfeiriwyd o Willem Barentz)
| Willem Barentsz | |
|---|---|
| Ganwyd | 1550, c. 1550 Formerum |
| Bu farw | 20 Mehefin 1597 Novaya Zemlya |
| Man preswyl | Terschelling, Amsterdam |
| Dinasyddiaeth | Gweriniaeth yr Iseldiroedd, Seventeen Provinces, yr Ymerodraeth Lân Rufeinig |
| Galwedigaeth | fforiwr, mapiwr, fforiwr pegynol, morlywiwr, morwr, gwibiwr, maritime cartographer |
| Priod | wife of Willem Barents |
Fforiwr a chartograffydd o'r Iseldiroedd oedd Willem Barentsz (1550 - 20 Mehefin 1597). Ffrisiad ydoedd a aned yn Terschelling, un o Ynysoedd Gorllewin Ffrisia, yn y cyfnod pan oedd yr Iseldiroedd dan reolaeth yr Hapsbwrgiaid.[1]
Fe fu iddo arwain tair mordaith i'r Arctig, ym 1594, 1595, a 1596. Y bwriad oedd canfod ffordd newydd o gyrraedd Tsieina a'r India—hynny yw, Tramwyfa'r Gogledd Ddwyrain. Er na lwyddwyd i wneud hynny, bu iddo ddarganfod Spitsbergen Bjørnøya. Yn ystod y drydedd fordaith, fe ddalwyd ei long yn y rhew, ac fe fu iddo farw o'r clefri poeth ar 20 Medi, 1597, ar arfordir gogleddol Novaya Zemlya. Enwyd Môr Barents ar ei ôl.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Janet Podell; Steven Anzovin (1993). Old Worlds to New: The Age of Exploration and Discovery (yn Saesneg). Wilson. t. 89. ISBN 978-0-8242-0838-7.