Wicipedia:Cynnwys Agored

Oddi ar Wicipedia
   Hafan Datblygu        Cynllun Datblygu        Digwyddiadau        Cyhoeddusrwydd          Wici GLAM        Wici Addysg        Wici Cymru        Man Trafod    

Polisi rhyddhau ffeiliau'r Cynulliad[golygu cod]

Mae'n bwysig cael polisi rhyddhau ffeiliau'r Cynulliad. 19:43, 27 Ebrill 2012‎ 86.133.62.179

Cytuno gyda'r syniadau i gyd - amdani! 20:30 29 Ebrill 2012 YGraigArw
Cytuno. Gwarthus yw bod llywodraeth yr Unol Daleithiau yn unigryw trwy ryddhau ei holl weithiau i'r parth cyhoeddus tra bo gwledydd eraill (gan gynnwys y DU a Chymru) yn hawlio, yn ein hachos ni "hawlfraint y Goron", dros eu cynnwys (hyd yn oed logos ein llywodraeth a deddfwrfa etholedig!). —Adam (sgwrscyfraniadau) 21:50, 29 Ebrill 2012 (UTC)[ateb]
Cytuno. I agree. '''Defnyddiwr:John Jones''' (sgwrs) 19:50, 3 Mai 2012 (UTC)[ateb]

Falle gellir ceisio darbwyllo S4C bod unrhyw gomisynnu ar gyfer rhaglenni ffeithiol yn ymrwymo'r cwmni cynhrychu i ryddau unrhyw gynnwys arlein o dan drwydded CC.--Ben Bore (sgwrs) 20:42, 23 Ebrill 2012 (UTC)[ateb]

S4C: Syniad gwych. Mi ychwanegai nhw at y rhestr. Llywelyn2000 (sgwrs) 21:53, 23 Ebrill 2012 (UTC)[ateb]
Dw i wedi cael sgwrs amnffurfiol gyda [Chydlynydd Cynnwys Digidol S4C], sy'n swnio'n reit gefnogol i egwyddor y peth, ac yn gwel sut y gallai fod o fantais iddynt. Mae ychydig o ddryswch ynglyn a phwy sy pia hawlfraint ar bethau (eg delweddau, clipiau promo ayyb), unai S4C neu'r cwmniau cynhyrchu (ond gyda un yn meddwl mai gan y lall mae'r hawlfriant, nid fel arall!). Un awgrym ganddo oedd y byddai S4C yn y dyfodol yn cyflwyno detholiad o gynnwys (eto, man bethau fel delweddau promo a chlipai promo) i'r parth cyhoeddus. Gadewais y boi yn anelu am ystafell yr adran gyfreithiol! --Ben Bore (sgwrs) 18:47, 11 Gorffennaf 2012 (UTC)[ateb]
Unrhyw symudiad efo S4C? Llywelyn2000 (sgwrs) 19:54, 31 Gorffennaf 2012 (UTC)[ateb]

Gwyddoniadur Cymraeg yr Academi[golygu cod]

Rydym mewn trafodaethau gyda Lleucu Siencyn ynghylch y posibilrwydd o gynnwys y Gwyddoniadur ar Wicipedia. Llywelyn2000 (sgwrs) 19:54, 31 Gorffennaf 2012 (UTC)[ateb]

Y Bywgraffiadur Ar-lein[golygu cod]

Rydym mewn trafodaethau gyda'r Cymrydolion ynglyn a'r posibilrwydd o gynnwys holl destun y Bywgraffiadur ar Wicipedia. Llywelyn2000 (sgwrs) 19:54, 31 Gorffennaf 2012 (UTC)[ateb]