Wicipedia:Wici GLAM

Oddi ar Wicipedia


   Hafan Datblygu        Cynllun Datblygu        Digwyddiadau        Cyhoeddusrwydd          Wici GLAM        Wici Addysg        Wici Cymru        Man Trafod    

Galerïau, Llyfrgelloedd, Amgueddfeydd a Mwy![golygu cod]

...ydy GLAM'. Nod GLAM ydy gweithio ar y cyd gyda sefydliadau diwyllianol i roi eu cynnwys digidol yn parth cyhoeddus a'u cynorthwyo i ddatblygu Wicipedia (a'i chwaer brosiectau) fel adnodd y gallent fanteisio arni. Yn Wici-en (y Saesneg) a ieithoedd eraill hefyd ceir GLAM (Galleies, Libraries and Museums) - gweler yma sy'n rhannu yr un gweledigaeth.

Y Llyfrgell Genedlaethol[golygu cod]

Cafwyd trafodaeth mewn sawl man ar Wicipedia am ein cydweithrediad agos gyda'r Llyfrgell yn eu hymdrechion i rannu gwybodaeth ar gynnwys rhydd ac agored e.e. Y Caffi, John Thomas (ffotograffydd), ac ar Y Cynllun Datblygu. Ymhlith y gwaith blaenllaw maent wedi'i gyflawni dros gynnwys agored y mae:

  • Yn Chwefror 2013 treialwyd 50 o ddelweddau o Fynwy, sydd allan o hawlfraint. Y llun cyntaf a uwchlwythwyd oedd: Abaty Tintern o Bulpud y Diafol. Crewyd templad i "ddal" y lluniau ac mae i'w weld yn fama. Cydnabyddir gan y ddwy ochr i'r Peilot fod yn llwyddiant.
  • Ym Mawrth 2013 partnerodd y Llyfrgell gyda Wikimedia'r Iseldiroedd, y DU, Ffrainc ac Ewropeana, fel partner diwylliannol, gan eu cefnodi i greu offer 'toolset' i uwchlwytho torfol o'r GLAMs i Gomin Wicimedia.
  • Hefyd yn 2013, enillodd y Llyfrgell wobr GLAM y flwyddyn: y 'corff mwyaf ysbrydoledig yn y Deyrnasd Unedig, sydd hefyd wedi arbrofi gyda chyhoeddi delweddau'n rhydd, yn agored ac am ddim; a hefyd am eu gwaith yn datblygu offer uwchlwytho torfol.' Cydnabyddodd Wikimedia UK hefyd mai 'dyma'r corff sy'n fwyaf triw i nodau ac amcanion WMUK yng Nghymru.'

Cafwyd sawl cyfarfod gyda'r Dr Dafydd Tudur, a'r ddau Brif Lyfrgellydd: Andrew Green ac Aled Gruffydd Jones. Roedd Robin Owain yn cynrychioli'r Wicipedia Cymraeg ymhob cyfarfod, a daeth dau gyn gadeirydd Wikimedia UK (WMUK) gydag ef i'r cyfarfod cyntaf.

Penodi Wicipediwr Preswyl llawn amser[golygu cod]

Yn Ionawr 2015, penododd y Llyfrgell Wicipediwr Preswyl, sef Jason Evans, sydd wedi bod ar staff y Llyfrgell ers ychydig flynyddoedd.
Rhagor...

Amgueddfeydd Cymru[golygu cod]

Y GLAM amlwg i'w ddewis ydy Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan, gan ei fod yn gwbwl unigryw. Hyd yma, er sawl cyfarfod, mae'r staff yn rhy brysur gyda'r adeiladau newydd.

Cyfarfu Llywelyn2000 â Dr Beth Thomas yn Awst 2012 (gweler uchod) i edrych a oedd yna dir cyffredin rhyngom. Nododd fod rhyddhau ffotograffau a sain ayb yn medru bod yn anodd iawn - bod un teulu yn ystod y deugain mlynedd diwetha wedi cwyno gan i Sain Ffagan gyhoeddi ffotograff heb eu caniatâd. Fodd bynnag, nododd nad oedd dim perygl mewn rhyddhau ffeiliau sain e.e. caneuon gwerin ac edrych ar y posibilrwydd o QRcodio gwybodaeth, adeiladau a gwrthrychau a'u dolennu i erthyglau WP Cymraeg. Awgrymodd eu bônt yn didoli'r ffeiliau i gategoriau ac yn trafod y rhai "saff" mewn cyfarfod arall. Llywelyn2000 (sgwrs) 22:29, 9 Gorffennaf 2012 (UTC)[ateb]

Partneriaethau posib[golygu cod]

Yr Amgueddfa Genedlaethol[golygu cod]

Hyd yma, ni chafwyd unrhyw ddatblygiad.

Amgueddfa Atgofion Sir Ddinbych[golygu cod]

(Menter Iaith Sir Ddinbych) Mae Rhys a Robin wedi cyfarfod â Menter Iaith Sir Ddinbych a nodwyd y tir cyffredin sydd rhyngom. Ym Mehefin 2014 cytunodd yr Amgueddfa Atgofion i uwchlwytho popeth sydd ganddynt ar drwydded agored.

Wikimedia UK[golygu cod]

Cyhoeddodd WMUK sawl erthygl Gymraeg ar eu prif flog, yn cefnogi datblyguadau diweddaraf 'Wici Cymru gyda'u gwaith yn annog rhyddhau gwybodaeth i'r parth cyhoeddus. Cyhoeddwyd hyn ar eu blog swyddogol ar 18 Ionawr, 2013, penodwyd Rheolwr i Gymru, Prif Hyfforddwr (am gyfnod o 6 mis) a chrewyd nifer o lyfrynnau Cymraeg.