Wermod wen
| Wermod wen | |
|---|---|
| Blodau'r wermod wen | |
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Plantae |
| Ddim wedi'i restru: | Angiosbermau |
| Ddim wedi'i restru: | Ewdicotau |
| Ddim wedi'i restru: | Asteridau |
| Urdd: | Asterales |
| Teulu: | Asteraceae |
| Genws: | Tanacetum |
| Rhywogaeth: | T. parthenium |
| Enw deuenwol | |
| Tanancetum parthenium (L.) Sch. Bip. | |
Llysieuyn rhinweddol iawn ydy'r wermod wen (Lladin: Chrysanthemum parthenium, Saesneg: Feverfew) sydd wedi ei ddefnyddio ers canrifoedd i wella meigryn a gwynegon. Fe'i tyfir hefyd er mwyn ei arddangos a'i ogla. Nid yw'n tyfu'n fwy na thua deunaw modfedd o uchder a cheir arogl lemwn cryf iawn ar y dail. Mae'r blodau'n edrych yn debyg iawn i lygad y dydd. Gall ledaenu'n gyflym iawn drwy'r ardd.
Ymddengys y gair "wermod wen" yn gyntaf yn y 14g.[1]
Rhinweddau meddygol
[golygu | golygu cod]Mae iddo rinweddau meddygol megis y gallu i wella cur pen eithafol, gwynegon (cricmala) a phroblemau'n ymwneud â'r cylla (poen bol).[2] Tair deilen sydd ei angen (neu un fawr) a'u rhoi mewn brechdan, gyda digon o fenyn arno, neu fêl. Dylid ei gymryd unwaith y dydd rhwng prydau bwyd a hynny am bedwar mis cyn gweld unrhyw wellhad.
Yn ddiweddar mae Prifysgol Rochester yn gweithredu profion clinigol dwys iawn i'r posibilrwydd cryf fod y wermod wen yn medru ymosod ar gelloedd canser:
Jordan’s lab has already seen promising results with a new compound, developed from a daisy-like plant known as feverfew or bachelor’s button. A component of the plant called parthenolide is the first single agent known to act on leukemias at the stem-cell level.[3]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Geiriadur Prifysgol Cymru, Cyfrol lV, tudalen 3732.
- ↑ Llysiau Rhinweddol gan Ann Jenkins, cyhoeddwyd gan Wasg Gomer, 1982.
- ↑ Canolfan Feddygol Prifysgol Rochester[dolen farw]