Wermod Lwyd
| Wermod Lwyd | |
|---|---|
| Y wermod lwyd (Artemisia absinthium) yn tyfu'n wyllt yn Rwsia | |
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Plantae |
| Ddim wedi'i restru: | Angiosbermau |
| Ddim wedi'i restru: | Ewdicotau |
| Ddim wedi'i restru: | Asteridau |
| Urdd: | Asterales |
| Teulu: | Asteraceae |
| Genws: | Artemisia |
| Rhywogaeth: | A. absinthium |
| Enw deuenwol | |
| Artemisia absinthium L. | |
Llysieuyn rhinweddol ydy'r wermod lwyd sydd hefyd yn cael ei alw'n chwerwlys (Lladin: Artemisia absinthium, Saesneg: (Common) Wormwood). Daw'r gair "wermod" o'r gair Saesneg "wormood" a defnyddiwyd y gair Cymraeg "wermod lwyd" yn gyntaf yn yr 16g "haner dyrned o'r wermod lwyd..." (WLB).[1] Mae'r coesynnau'n tyfu'n syth fel saeth - rhwng 0.8 a 1.2 metr o uchder a'r rheiny mewn traws-doriad ar siâp pedol, wedi'u canghennu ac yn wyrdd-arian o ran lliw, yn y rhan uchaf ac yn wyn oddi tano. Mae'r dail wedi'u gosod ar sbiral a gall y dail ar waelod y planhigyn fod cyhyd â 25 cm o ran hyd.
Sut i'w dyfu
[golygu | golygu cod]Yn sicr, mae'r wermod lwyd angen tir sych a hynny yn llygad yr haul - a chyda digonedd o nitrogen yn y pridd.
Tarddiad y gair
[golygu | golygu cod]Daw'r gair o'r Saesneg Canol, "wormwode" neu "wermode" gan iddo gael ei ddefnyddio yn yr oes honno ar gyfer llyngir (y rhan "worm" o'r gair); yr un ydyw, mewn gwirionedd, â'r gair modern "Vermouth".
Defnydd ohono
[golygu | golygu cod]Drwy ferwi'r dail, ceir hylif eithaf cryf sy'n cael ei ddefnyddio i gadw pryfaid i ffwrdd. Caiff hefyd ei ddefnyddio fel planhigion cynorthwyol i'w dyfu ar ymyl y prif gnwd er mwyn cadw trychfilod i ffwrdd. Fe'i defnyddir i roi blas ar "liquor absinthe" ac i roi blas ar winoedd ac ati. Arferid ei ddefnyddio yn y canol oesoedd i roi blas ar fedd (ee "meddyglyn").
Rhinweddau llysieuol
[golygu | golygu cod]Caiff ei ddefnyddio heddiw (ac ers canrifoedd yng Nghymru) fel tonic, ar gyfer anhwylderau'r stumog (diffyg traul), gwrthseptig ayb.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Geiriadur Prifysgol Cymru Cyfrol 4
