Welshampton

Oddi ar Wicipedia
Welshampton
Mathpentref Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolWelshampton a Lyneal
Daearyddiaeth
SirSwydd Amwythig
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau52.9104°N 2.8407°W Edit this on Wikidata
Cod OSSJ433349 Edit this on Wikidata
Cod postSY12 Edit this on Wikidata
Map

Pentref yn sir seremonïol Swydd Amwythig, Gorllewin Canolbarth Lloegr, yw Welshampton.[1] Fe'i lleolir ym mhlwyf sifil Welshampton and Lyneal yn awdurdod unedol Swydd Amwythig. Saif ger tref Ellesmere, ar y briffordd A495 tua hanner ffordd rhwng Croesoswallt a Whittington. Gyda phentrefi bychain Lyneal a Colemere, mae'n rhan o'r ardal a elwir yn "Ardal y Llynnoedd Gogledd Swydd Amwythig" (North Shropshire Lake District).

Mae'r enw "Welshampton" yn atgof o'r amser pan fu'r rhan yma o Swydd Amwythig yn rhan o Deyrnas Powys. Hyd yn oed ar ôl iddo ddod yn rhan o deyrnas Mersia ac wedyn Swydd Amwythig bu nifer o Gymry yn byw yma, yn agos i hen gwmwd Maelor Saesneg dros y ffin yng Nghymru (de-ddwyrain sir Wrecsam).

Ysgol gynradd Welshampton

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. British Place Names; adalwyd 11 Ebrill 2021