Welsh Frankton

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Welsh Frankton
Awdurdod unedol Cyngor Swydd Amwythig
Swydd Swydd Amwythig
Rhanbarth
Gwlad Lloegr
Gwladwriaeth sofran Y Deyrnas Unedig
Senedd yr Undeb Ewropeaidd Gorllewin Canolbarth Lloegr
Rhestr llefydd: y DU • Lloegr •

Pentref yn Swydd Amwythig, Lloegr yw Welsh Frankton. Fe'i lleolir yng ngogledd-orllewin y sir ar bwys y briffordd A495 rhwng Croesoswallt ac Ellesmere.

Mae'r enw 'Welsh Frankton' yn atgof o'r amser pan fu'r rhan yma o Swydd Amwythig yn rhan o Deyrnas Powys. Hyd yn oed ar ôl iddo ddod yn rhan o deyrnas Mercia ac wedyn Swydd Amwythig bu nifer o Gymry yn byw yma, mewn ardal sy'n gorwedd rhwng hen gwmwd Maelor Saesneg (de-ddwyrain sir Wrecsam) a Sir Ddinbych dros y ffin yng Nghymru.

Mae Camlas Llangollen yn mynd heibio i'r pentref.

Camlas Llangollen yn Welsh Frankton.