Walkers' Wood

Oddi ar Wicipedia

Cerdd Gymraeg gan Myrddin ap Dafydd yw "Walkers' Wood". Cerdd am tad a mab yn mynd am dro yng Nghoed Llugwy ydyw. Wrth i'r ddau fynd am dro yng nghanol tymor yr Hydref, maent yn cael gweld y lliwiau hyfryd sydd o'u cwmpas. Mae'r gerdd yn canolbwyntio ar y iaith Gymareg a sut mae twristiaeth yn gallu difetha' byd natur Cymru. Mae twristiaeth yn bwysig iawn i ddiwydiant Cymru. Mae nifer o bentrefi fel Betws-y-Coed yn dibynnu ar dwristiaeth ar gyfer eu bywoliaeth a busnesau.

Myrddin ap Dafydd[golygu | golygu cod]

Magwyd Myrddin yn Llanrwst. Addysgwyd ef yn Ysgol Dyffryn Conwy a Choleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth. Mae'n fab i'r awdur llyfrau plant Dafydd Parri ac i'r werthwraig llyfrau Arianwen Parri.

Iaith ac arddull[golygu | golygu cod]

Mae themâu o fyd-natur yn y gerdd wrth i'r fardd sôn am liwiau'r Hydref yn "wledd ar hyd y llawr". Hefyd mae'r iaith Gymraeg yn cael sylw wrth i Myrddin ap Dafydd roi'r enw Saesneg ar Goed Llugwy sef Walkers' Wood fel teitl i'r gerdd. Cerdd rydd mewn mydr ac odl yw Walkers' Wood ac mae'r bardd yn odli geiriau Cymraeg gyda geiriau Saesneg i ddangos dylanwad twristiaid ar Gymru.