Neidio i'r cynnwys

Vladimir Atlasov

Oddi ar Wicipedia
Vladimir Atlasov
Ganwyd1661, 1660, 1663 Edit this on Wikidata
Veliky Ustyug Edit this on Wikidata
Bu farw1 Chwefror 1711 (yn y Calendr IwliaiddEdit this on Wikidata
Nizhnekamchatsk Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTsaraeth Rwsia Edit this on Wikidata
Galwedigaethfforiwr Edit this on Wikidata

Fforwr o Rwsia oedd Vladimir Vasilyevich Atlasov neu Otlasov (Rwseg: Влади́мир Васи́льевич Атла́сов neu Отла́сов) (ganed yn Veliky Ustyug rhwng 1661 a 16641711). Roedd yn Cosac Siberiaidd ac fe'i cofir fel y Rwsiad cyntaf i fforio Gorynys Kamchatka (yn Crai Kamchatka, Dosbarth Ffederal y Dwyrain Pell). Enwir Ynys Atlasov, ynys fwlcanig ger arfordir deheuol Kamchatka, ar ei ôl.

Atlasov oedd yr Ewropeiad cyntaf i weld Afon Golygina yn ne Kamchatka. Cyn cyrraedd Kamchatka roedd wedi fforio yn nwyrain Siberia a Dwyrain Pell Rwsia a chyrhaedd Môr Okhotsk. Cafodd ei gyhuddo o drin ei griw o Cosaciaid yn arw; fe'i llofruddwyd yn ei gwsg yn 1711.

Baner RwsiaEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am un o Rwsia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.