Virginia Crosbie

Oddi ar Wicipedia
Virginia Crosbie
Ganwyd8 Rhagfyr 1966 Edit this on Wikidata
Maldon Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Lloegr Lloegr Baner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod o 58ain Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddoly Blaid Geidwadol Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.virginiacrosbie.co.uk/ Edit this on Wikidata

Gwleidydd o'r Blaid Geidwadol Brydeinig yw Virginia Ann Crosbie (ganwyd 8 Rhagfyr 1966).[1] Mae hi'n Aelod Seneddol (AS) Ynys Môn ers etholiad cyffredinol 2019.

Cafodd Crosbie ei geni ym Maldon, Essex, Lloegr, i fam Seisnig a thad Cymreig. Cafodd ei magu ym mhentref Tiptree, lle roedd ei mam yn gweithio mewn ffatri jam. Mynychodd Ysgol Uwchradd Sirol Colchester. Astudiodd ficrobioleg ym Mhrifysgol Queen Mary yn Llundain cyn cwblhau diploma mewn astudiaethau rheolaeth ym Mhrifysgol San Steffan. Ar ôl graddio, bu Crosbie yn gweithio i Glaxo Wellcome cyn dod yn ddadansoddwr fferyllol yn y banc UBS. Daeth yn gyfarwyddwr yn UBS ac yn ddiweddarach yn HSBC. Wedyn daeth yn athrawes mathemateg rhan amser.

O fis Medi 2021 tan fis Gorffennaf 2022, roedd yn Ysgrifennydd Preifat Seneddol yn Swyddfa Ysgrifennydd Gwladol Cymru.[2] Ym mis Gorffennaf 2022 ymddiswyddodd o lywodraeth Boris Johnson.[3]

Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Albert Owen
Aelod Seneddol dros Ynys Môn
2019 – presennol
Olynydd:
presennol

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Brunskill, Ian (19 Mawrth 2020). The Times guide to the House of Commons 2019 : the definitive record of Britain's historic 2019 General Election (yn Saesneg). t. 398. ISBN 978-0-00-839258-1. OCLC 1129682574.
  2. "Ynys Môn MP Virginia Crosbie says new Wales Office role will help her 'champion our precious union'". Nation.Cymru (yn Saesneg). 21 Medi 2021. Cyrchwyd 22 Medi 2021.
  3. "Virginia Crosbie wedi ymddiswyddo ar ôl Rishi Sunak a Sajid Javid". Golwg360. 5 Gorffennaf 2022. Cyrchwyd 6 Gorffennaf 2022.