Vernon Pugh

Oddi ar Wicipedia
Vernon Pugh
Ganwyd5 Gorffennaf 1945 Edit this on Wikidata
Rhydaman Edit this on Wikidata
Bu farw25 Ebrill 2003, 24 Ebrill 2003 Edit this on Wikidata
Penarth Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethchwaraewr rygbi'r undeb, cyfreithiwr, gweinyddwr Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Gwlad chwaraeonCymru Edit this on Wikidata

Ganed Glanville Vernon Pugh (5 Gorffennaf 1945 - 24 Ebrill 2003) yn Glynmoch ger Rhydaman. Roedd yn gyfreithiwr, hyfforedwr rygbi, ond yn fwyaf adnabyddus am ei waith yn chwyldroi llywodraethiant Undeb Rygbi Cymru a rygbi'r undeb yn Ewropeaidd ac yn fyd-eang gyda World Rugby.

Bywyd[golygu | golygu cod]

Magwyd ym mhentref Glynmoch ger Rhydaman yn fab i löwr. Yn fachgen ifanc aeth a'i dad ag ef a dau frawd Pugh i lawr y pwll gydag ef. Wedi esgyn nôl i'r dyfnderoedd, dywedodd y tad wrth ei feibion nad oedd byth am ei gweld mewn pwll glo eto.[1]

Addysgwyd Pugh yn Ysgol Ramadeg Dyffryn Aman, Rhydaman, Coleg Prifysgol Aberystwyth a Choleg Downing ym Mhrifysgol Caergrawnt lle enillodd LlB. Galwyd ef i'r Bar yn Lincoln's Inn yn 1969 gan wireddu ei uchelgais i fod yn Gwnsler y Frenhines cyn ei fod yn ddeugain oed. Adeiladodd bractis cyfreithiol yng Nghaerdydd gan arbenigo yn y diwydiant dŵr, ymholiadau tirlenwi, llygredd a chynlluniau datblygu amgylcheddol sensitif. Cymerodd y Sidan yn 1986, gwrthododd gyfle i fod yn Farnwr Uchel Lys oherwydd ei ddiddordeb mewn gweinyddiaeth rygbi.[2]

Derbyniodd Cymrodaeth er Anrhydedd gan ei alma mater, Prifysgol Aberystwyth yn y flwyddyn 2000.[3]

Roedd yn briod â Dorida (neé Davies),[4] a chanddynt dair o ferched, Non, Nerys a Nia. Bu ym mhriodas ei ferch, Nerys. 11 diwrnod cyn ei farwolaeth. Bu farw mewn hosbis ym Mhenarth.[1] Cynhaliwyd ei angladd yn Eglwys Sant Ioan, Yr Aes, Caerdydd.[5]

Chwarae ac Hyfforddi Rygbi[golygu | golygu cod]

Chwaraeodd rygbi i Amman United, Caerlŷr, Pontypridd, St Peter's a Cardiff High School Old Boys, cyn troi at hyfforddi gydag awch gyda Cardiff HSOB. Newidiodd enw'r clwb i Cardiff Harlequins,[2] gan deimlo nad oedd Cardiff HSOB yn enw atyniadol iawn. Ei gariad mawr oedd fel hyfforddwr, a daeth yn hyfforddwr i Brifysgolion Cymru fel daeth yn Gadeirydd y Bwrdd.

Erbyn 1993 roedd yn hyfforddi Clwb Rygbi Harlecwiniaid Caerdydd.

Rheolwr ac Ad-drefnwr Rygbi Cymru[golygu | golygu cod]

Roedd Pugh yn arbenigo mewn cyfraith amgylcheddol a chynllunio ac yn 1989 comisiynodd Undeb Rygbi Cymru iddo ysgrifennu adroddiad ar berthynas rygbi Cymru gyda dathliadau canmlwyddiant undeb rygbi De Affrica (a oedd, ar y pryd dal yn wlad oedd llywodraethu yn ôl athroniaeth hiliol Apartheid). Comisiynwyd Pugh i ddarganfod pam fod cymaint o chwaraewyr a threfnwyr Cymreig wedi mynd i chwarae a chymryd rhan yn nathliadau canmlwyddiant undeb rygbi Dde Affrica. Mewn adendwm digymell, mynegodd Pugh nad oedd URC yn addas ar gyfer rhedeg rygbi yn yr oes fasnachol ac awgrymodd ad-drefniad trylwyr. Ni gyhoeddodd URC mo'r adendwm na rhoi gwybod i'r clybiau amdano. Ond pan gyhoeddodd papur y South Wales Echo amdano yn Chwefror 1993, gorfodwyd i'r Undeb gynnal cyfarfod arbennig gan y clybiau. Cafwyd etholiad newydd a phleidlais o ddiffyg hyder yn y corff.

Gwrthododd Pugh sefyll am le ar yr Undeb hyd nes dwy awr cyn cau'r enwebiadau. Cyrhaeddodd frig y pôl ac etholwyd ef yn gadeirydd cyntaf y Pwyllgor Cyffredinol - safle a ddaliodd hyd nes 1997. Daeth yn un o ddau gynrychiolydd Cymru ar y Bwrdd Rygbi Rhyngwladol (a elwir bellach yn World Rugby) ac yn Gadeirydd ar y Bwrdd o fewn 12 mis.

World Rugby a Rygbi Byd-eang[golygu | golygu cod]

Trefn cadeiryddiaeth yr IRB oedd rhoi cyfnod o flwyddyn i bob un o'r wyth aelod sefydlog (Cymru, Alban, Iwerddon, Lloegr, Ffrainc, De Affrica, Seland Newydd, ac Awstralia). Llwyddodd Pugh i ddarbwyllo Cyngor yr IRB i newid i system wahanol a daeth ef yn Gadeirydd cyntaf etholedig y Bwrdd yn 1996 am gyfnod o 3 mlynedd. Gweinyddodd fel Cadeirydd am ddau gyfnod tair mlynedd gyda'r bwriad o sefyll lawr ar ôl Cwpan Rygbi'r Byd 2003]], ond bu'n rhaid iddo ymddeol yn gynnar oherwydd iddo gael diagnosis o ganser ym Medi 2002.

Ef, fel Cadeirydd Pwyllgor Amatur y Bwrdd, a gyhoeddodd yn Awst 1995 bod rygbi'r undeb am roi'r gorau i'w statws hanesyddol fel gêm amatur. Disgrifiodd Pugh amaturiaeth fel cronfa na allai ddal dŵr mwyach. Daeth hyn ganrif yn rhy hwyr i glybiau rygbi gogledd Lloegr a dorrodd oddi ar y gêm amatur a sefydlu rygbi'r cynghrair yn 1893.

Arloesodd mewn ffyrdd eraill. Bu'n gynorthwyol yn sefydlu Cwpan Heineken - cystadleuaeth rhwng clybiau rygbi Ewrop; bu'n holl bwysig yn y penderfyniad i adael yr Eidal i ymuno â Phencampwriaeth y Chwe Gwlad. Gweithiodd yn ddygn i geisio cael rygbi yn ôl fel un o gemau Gemau Olymaidd. Sefydlodd cylchdaith rygbi saith bob ochr er mwyn ceisio ehangu apêl rygbi a'i wneud yn fwy dealladwy ar gyfer gwylwyr newydd a niwtral. Ei weledigaeth oedd i rygbi fod yn gêm ag iddi apêl rhyngwladol.[1] ac o dan ei gadeiryddiaeth dyblodd nifer cenedl aelodaeth yr IRB i 100.[2]

Yn 2015 dyfarnwyd y Pugh Award for Distinguished Service[dolen marw] am y tro cyntaf gan World Rugby.[6] Yr enillydd gyntaf oedd y cyn chwaraewr Lloegr a gohebydd, Nigel Starmer-Smith.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 https://www.theguardian.com/news/2003/apr/26/guardianobituaries.sport
  2. 2.0 2.1 2.2 https://www.telegraph.co.uk/news/obituaries/1428530/Vernon-Pugh.html
  3. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-09-02. Cyrchwyd 2019-09-02.
  4. https://www.independent.co.uk/news/obituaries/vernon-pugh-36473.html
  5. https://www.walesonline.co.uk/news/wales-news/rugby-world-pays-respects-vernon-2483510
  6. https://www.youtube.com/watch?v=6uPR8MFkWXc

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am rygbi'r undeb. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.