Ogof Vanguard

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Vanguard Cave)
Neidio i: llywio, chwilio
Ogof Vanguard
Vanguard Cave
SQ Vanguard Cave.jpg
Ceg yr ogof
Map yn dangos lleoliad Ogof Vanguard
Map yn dangos lleoliad yr ogof o fewn tiriogaeth Gibraltar.
Lleoliad O dan y graig ar ochr ddwyreiniol Craig Gibraltar
Cyfesurynnau 36°07′18″N 5°20′31″W / 36.121556°N 5.342022°W / 36.121556; -5.342022Cyfesurynnau: 36°07′18″N 5°20′31″W / 36.121556°N 5.342022°W / 36.121556; -5.342022
Dyfnder 17 metr (56 tr)
Amrywiaeh
o ran hyd
35 metr (115 tr)
Daeareg Calchfaen

Ogof glan y môr ydy Vanguard Cave sydd yn rhan o wëad o ogofâu a elwir yn Gorham's Cave Complex ac sydd wedi'i lleoli yn Gibraltar.

Mae'r gwëad yma o ogofâu wedi cael eu henwebu am statws Safle Treftadaeth y Byd, UNESCO. Dyma un o droedleoedd olaf y Neanderthal a oedd yn byw yn yr ardal hon rhwng 55,000 a 28,000 o flynyddoedd yn ôl.[1] Mae wedi'i lleoli i'r de-ddwyrain o Graig Gibraltar.

Nodweddion ffisegol[golygu | golygu cod y dudalen]

Prof. Clive Finlayson yn darlithio ar Gibraltarpedia gerllaw Ogof Vanguard.

Mae'r ogof yn un o bedwar sy'n rhan o blethera Gorham's Cave complex sydd wedi'u henwebu am statws Safle Treftadaeth y Byd, UNESCO. Y tri arall yw: Ogof Bennett's, Ogof Gorham, ac Ogof Hyaena.[1] Mae'n ogof sy'n 35 metr (115 tr) o uchder (mewnol) sy'n cynnwys 1.7 metr (5.6 tr) o waddodion. Chwythwyd y gwaddodion hyn i fewn drwy geg yr ogof dros gyfnod hir o amser ac maent yn gymysg gyda'r olion archaeolegol. Archwiliwyd yr olion hyn ac mae'r canlyniadau yn rhoi darlun eitha clir i ni o sut fywyd (a nodweddion daearyddol) oedd yma yn y gorffennol.[2] Cloddiwyd Vanguard yn gyntaf ym 1989, a cloddiwyd Ogof Gorham - a leolir ychydig fetrau gerllaw yn 1951.[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]