Ogof Vanguard

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Ogof Vanguard
Vanguard Cave
SQ Vanguard Cave.jpg
Ceg yr ogof
Map yn dangos lleoliad Ogof Vanguard
Map yn dangos lleoliad yr ogof o fewn tiriogaeth Gibraltar.
Lleoliad O dan y graig ar ochr ddwyreiniol Craig Gibraltar
Cyfesurynnau 36°07′18″N 5°20′31″W / 36.121556°N 5.342022°W / 36.121556; -5.342022Cyfesurynnau: 36°07′18″N 5°20′31″W / 36.121556°N 5.342022°W / 36.121556; -5.342022
Dyfnder 17 metr (56 ft)
Amrywiaeh
o ran hyd
35 metr (115 ft)
Daeareg Calchfaen

Ogof glan y môr ydy Vanguard Cave sydd yn rhan o wëad o ogofâu a elwir yn Gorham's Cave Complex ac sydd wedi'i lleoli yn Gibraltar.

Mae'r gwëad yma o ogofâu wedi cael eu henwebu am statws Safle Treftadaeth y Byd, UNESCO. Dyma un o droedleoedd olaf y Neanderthal a oedd yn byw yn yr ardal hon rhwng 55,000 a 28,000 o flynyddoedd yn ôl.[1] Mae wedi'i lleoli i'r de-ddwyrain o Graig Gibraltar.

Nodweddion ffisegol[golygu | golygu cod y dudalen]

Prof. Clive Finlayson yn darlithio ar Gibraltarpedia gerllaw Ogof Vanguard.

Mae'r ogof yn un o bedwar sy'n rhan o blethera Gorham's Cave complex sydd wedi'u henwebu am statws Safle Treftadaeth y Byd, UNESCO. Y tri arall yw: Ogof Bennett's, Ogof Gorham, ac Ogof Hyaena.[1] Mae'n ogof sy'n 35 metr (115 ft) o uchder (mewnol) sy'n cynnwys 1.7 metr (5.6 ft) o waddodion. Chwythwyd y gwaddodion hyn i fewn drwy geg yr ogof dros gyfnod hir o amser ac maent yn gymysg gyda'r olion archaeolegol. Archwiliwyd yr olion hyn ac mae'r canlyniadau yn rhoi darlun eitha clir i ni o sut fywyd (a nodweddion daearyddol) oedd yma yn y gorffennol.[2] Cloddiwyd Vanguard yn gyntaf ym 1989, a cloddiwyd Ogof Gorham - a leolir ychydig fetrau gerllaw yn 1951.[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]