Uned frwydro cludydd

Oddi ar Wicipedia
Uned frwydro cludydd
Uned frwydro'r USS Abraham Lincoln, gan gynnwys llongau o Awstralia, Canada, De Corea, Japan, a Tsile, yn ymarferiad RIMPAC (2000).
Enghraifft o'r canlynoluned o'r llynges, awyrennu llyngesol Edit this on Wikidata
Mathfflyd o longau llyngeso Edit this on Wikidata
Yn cynnwyscludydd awyrennau Edit this on Wikidata

Fflyd o longau llyngesol (Saesneg: Carrier battle group) sy'n cynnwys cludydd awyrennau—y gadlong—dan hebryngiad nifer o longau gwarchod yw uned frwydro cludydd. Yn ogystal â'r amryw o longau sy'n ffurfio llynges osgordd, mae'r cludydd yn cynnal sawl sgwadron o awyrennau milwrol, a elwir asgell awyr y cludydd. Defnyddir unedau brwydro o'r fath i warchod llongau masnach neu filwrol, i gefnogi môr-filwyr wrth ymosod ar y tir o'r môr, neu fel arall i sefydlu presenoldeb y llynges mewn ardal benodol er buddiannau'r wlad, yn enwedig yn nhermau diogelwch cenedlaethol. Fel rheol, ni theithir cludydd awyrennau ar y môr heb osgordd ei uned frwydro.

Yn Llynges yr Unol Daleithiau, er enghraifft, gall aelodau'r uned frwydro gynnwys o leiaf un long ddistryw ac un ffrigad, dwy long danfor ymosodol, dwy wiblong gyda thaflegrau annel, un long ddistryw gyda thaflegrau annel, a llong i ddarparu logisteg.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) Judson Knight, "Aircraft carrier", Encyclopedia of Espionage, Intelligence, and Security. Adalwyd ar wefan Encyclopedia.com ar 28 Hydref 2023.