Tyranosor

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Tyranosor
Tyrannosaurus
Amrediad amseryddol: Cretasaidd Hwyr - 68–66 Miliwn o fl. CP
Atgynhyrchiad o'r T. rex (CM 9380) yn Amgueddfa Carnegie
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Uwchurdd: Dinosauria
Urdd: Saurischia
Is-urdd: Theropoda
Teulu: Tyrannosauridae
Is-deulu: Tyrannosaurinae
Genws: Tyrannosaurus
Teiprywogaeth
Tyrannosaurus rex
Osborn, 1905
Prif grwpiau
Cyfystyron

Genws o'r deinosor theropod coelurosoraidd yw'r tyranosor. Mae'r enw yn tarddu o'r Lladin Tyrannosaurus, sy'n golygu 'teyrn-fadfall'. Y rhywogaeth Tyranosorws recs (rex yn golygu "brenin" yn Lladin) ymlith y mwyaf adnabyddus o'r theropodau mawr. Roedd y Tyranosor yn byw ledled yr hyn sydd bellach yn orllewin Gogledd America, bryd hynny yn ynys-gyfandir sy'n cael adnabod fel Laramidia. Roedd y tyranosoriaid yn ymestyn yn llawer ehangach na'r tyranosoridau. Mae ffosiliau i'w canfod mewn amrywiaeth o ffurfiannau carreg sy'n dyddio i oes Maastrichtaidd y cyfnod uwch-Gretasaidd, 68 i 66 miliwn o flynyddoedd yn ôl. Hwn oedd yr aelod olaf o'r tyranosoridau, ac ymhlith y deinosoriaid an-adaraidd i fodoli cyn y digwyddiad a achosodd ddifodiant yn y cyfnod Cretasaidd–Paleogenaidd.

Proffil o benglog (AMNH 5027)

Fel tyranosoridau eraill, cigysydd deudroed oedd y Tyrannosaurus a chanddo benglog anferth wedi'i gydbwyso â chynffon hir a thrwm. O'i gymharu a'i gymalau ôl mawr a chryfion, roedd cymalau blaen y Tyranosor yn fyr ond yn anghyffredin o gryf o ystyried eu maint a'r ddau fys crafangog.

Mae'r spesimen mwyaf cyflawn yn 12.3 metr (40 troedfedd) o hyd, er bod y Tyranosorws recs yn gallu tyfu yn fwy na hynny,[1] hyd at 3.66 metr (12 troedfedd) o daldra wrth y cluniau, ac yn ôl yr amcangyfrifon mwyaf diweddar, gallai gyrraedd pwysai o 8.4 tunnell fetrig (9.3 tunnell fer).

Er bod theropodau eraill yn cystadlu â ac yn rhagori ar y Tyranosorws recs o ran maint, mae'n dal i fod ymysg yr ysglyfaethwyr mwyaf a chredir mai ganddo ef oedd y brathiad cryfaf o'r holl anifeiliaid oedd yn byw ar dir. Y cigysydd mwyaf yn ei amgylchedd o bell ffordd, roedd y Tyranosorws recs siwr o fod yn ben-ysglyfaethwr, yn ysglyfaethu ar hadrosorau, llysysyddion arfog fel seratopsiaid ac ancylosorau, ac o bosib sawropodau. Mae rhai arbenigwyr wedi awgrymu bod y deinosor yn sborionwr yn bennaf. Mae'r cwestiwn a oedd y Tyranosor yn ben-ysglyfaethwr neu'n sborionwr pur yn un o'r trafodaethau sydd wedi parhau hiraf mewn paleontoleg. Mae'r rhan fwyaf o baleontolegwyr heddiw yn derbyn bod y Tyranosor yn ysglyfaethwr ac yn sborionwr.

Mae dros 50 spesimen o Tyranosorws recs wedi'u hadnabod, gyda rhai ohonynt yn sgerbydau sydd bron yn gyflawn. Mae meinwe meddal a phrotinau wedi'u darganfod mewn o leiaf un o'r spesimenau hyn. Mae'r digonedd o ddeunydd ffosil wedi galluogi ymchwil helaeth i nifer o agweddau o'i fioleg, gan gynnwys hanes ei fywyd a biomecaneg. Mae arferion bwyta, ffisioleg a chyflymdra posibl y Tyranosorws recs yn destunau trafod. Mae ei dacsonomeg hefyd yn ddadleuol, gan fod rhai gwyddonwyr yn ystyried Tarbosorws bataar o Asia yn ail rywogaeth o'r Tyranosor tra bod eraill yn dadlau bod Tarbosorws yn genws ar wahan. Mae nifer o genera eraill tyranosoridau Gogledd America hefyd wedi'u cyfystyru â Tyranosorws.

Fel y theropod archdeipaidd, Tyranosor yw un o ddeinosoriaid mwyaf adnabyddus yr 20g, ac mae wedi ymddangos mewn ffilmiau a hysbysebion, ar stampiau post, fel teganau plant, ac mewn nifer o gyfryngau eraill.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]


Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]