Twll offeiriad

Oddi ar Wicipedia
Mynedfa guddiedig i dwll offeiriad yn Partingdale House, Middlesex (yn y pilastr de)

Mae twll offeiriad yn guddfan i offeiriad a adeiladwyd o fewn lawer o brif dai Catholig yn Lloegr ystod y cyfnod pan gafodd Catholigion eu herlid gan y gyfraith yn Lloegr. Pan ddaeth y Frenhines Elisabeth I i'r orsedd ym 1558, roedd sawl cynllun Catholig i'w ddisodli,[1] ac roedd mesurau difrifol yn erbyn offeiriaid Catholig. Adeiladwyd tyllau offeiriad mewn nifer o dai mawr fel y gellir cuddio presenoldeb offeiriaid pan gaiff yr adeilad eu chwilio. Fe'u cuddiwyd mewn waliau, o dan loriau, y tu ôl i banelau wal, a lleoliadau eraill. Roeddent yn aml yn llwyddiannus yn cuddio offeiriaid.

Dyluniwyd llawer o dyllau offeiriad gan y Jeswit Nicholas Owen, a dreuliodd lawer o'i fywyd yn adeiladu tyllau offeiriad i amddiffyn bywydau offeiriaid a chafwyd eu herlid. Ar ôl Cynllwyn y Powdwr Gwn, cafodd Owen ei hun ei gipio, ei gymryd i Dŵr Llundain a'i ladd. Cafodd ei ganoneiddio fel merthyr gan y Pab Paul VI ym 1970.[2]

Cefndir[golygu | golygu cod]

Un o'r cuddfannau yn Harvington Hall, datgelir y fynedfa trwy ogwyddo cam ar y prif risiau

Yn fuan ar ôl esgyniad Elisabeth I ym 1558 cyflwynwyd mesuriadau yn erbyn offeiriaid Catholig. Daeth y rhain llawer mwy llym ar ôl Gwrthryfel Ieirll y Gogledd ym 1569 a Chynllun Babington. Cafodd "helwyr offeiriaid" y dasg o gasglu gwybodaeth a dod o hyd i unrhyw offeiriaid.[3] Pasiwyd deddf yn gwahardd aelod o’r Eglwys Gatholig rhag dathlu defodau ei ffydd, gyda chosb o fforffedu am y drosedd gyntaf, blwyddyn o garchar am yr ail, a charchar am oes am y drydedd. Pasiwyd deddf hefyd yn erbyn unrhyw Babydd oedd yn trosi Anglicaniaid, neu Brotestant arall, i Babyddiaeth, yn cosbi'r ddau gyda'r gosb eithaf. Ar ôl y cynllwyn powdwr gwn ym 1605 yn ystod teyrnasiad Iago I, dechreuwyd gorfodi'r deddfau hyn yn llymach. Byddai arestio offeiriad yn golygu ei garcharu, ac yn aml ei arteithio a'i ladd.

Lleoliad a defnydd[golygu | golygu cod]

Yn aml roedd gan gestyll a thai gwledig Lloegr rywfaint o ddulliau cuddio neu ddianc, fodd bynnag, yn yr oes yma pan erlid pobl Gatholig, cynyddodd nifer y siambrau cudd a'r cuddfannau yn nhai'r hen deuluoedd Catholig. Roedd y rhain yn aml ar ffurf fflatiau neu gapeli mewn rhannau tawel y tai, neu yn y to, lle gellid dathlu offeren gyda phreifatrwydd a'r diogelwch. Fel arfer roedd cuddfan artiffisial gerllaw, nid yn unig i'r offeiriad cuddio mewn argyfwng, ond hefyd i ddarparu man lle gellid storio'r festiau a'r dodrefn allor ar fyr rybudd.[4] Codwyd tyllau offeiriad mewn lleoedd tân, atigau, a grisiau ac fe'u hadeiladwyd i raddau helaeth rhwng y 1550au a 1605.[3]

Nicholas Owen[golygu | golygu cod]

Priodolir llawer o guddfannau o'r fath i'r Jeswit, Nicholas Owen, y bu farw 1606, a threuliodd ran helaethaf ei fywyd yn adeiladu'r lleoedd hyn i amddiffyn bywydau offeiriaid. Fe'u hadeiladwyd weithiau fel cangen o simnai. Mynedfa boblogaidd arall oedd y tu ôl i banelau wal; enghraifft yw Castell Ripley yng Ngogledd Swydd Efrog. Cafodd eraill eu hadeiladu mewn toiledau, er enghraifft yn Chesterton Hall, ger Caergrawnt. Mae gan Harvington Hall yn Swydd Gaerwrangon saith twll offeiriad ledled y tŷ, gan gynnwys mynediad trwy'r prif risiau, panelau, a lle tân ffug.[5] Ar ôl Cynllwyn y Powdwr Gwn, cipiwyd Owen yn Hindlip Hall, Swydd Gaerwrangon. Cafodd ei gymryd i Dŵr Llundain, ei arteithio a'i ladd. Cafodd ei ganoneiddio fel merthyr gan y Pab Paul VI ym 1970.[2]

Twll offeiriad ar ail lawr Tŷ Boscobel, Swydd Amwythig

Effeithiolrwydd[golygu | golygu cod]

Roedd tyllau offeiriad yn effeithiol, y dangosir gan eu llwyddiant wrth ddrysu chwiliadau'r helwyr offeiriaid, a ddisgrifir mewn adroddiadau cyfoes o'r chwiliadau. Byddai partïon chwilio yn cynnwys seiri a seiri maen, er mwyn gwneud mesuriadau systematig ac weithiau rwygo i lawr panelau wal a thynnu lloriau i fyny. Tacteg arall fyddai i'r chwilwyr esgus gadael a gweld a fyddai'r offeiriad wedyn yn ymddangos o'i guddio.[3] Efallai ei fod yn hanner llwgu ac mewn poen o'r cyfyngder hir, ac yn ofni anadlu rhag i'r sain datgelu ei leoliad. Weithiau gallai offeiriad farw o lwgu neu o ddiffyg ocsigen.[4]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Elizabeth I (r.1558-1603)". The home of the Royal Family. Cyrchwyd 5 Mai 2017.
  2. 2.0 2.1 Tny Reynolds (2017). St Nicholas Owen: Priest-hole Maker. Gracewing.
  3. 3.0 3.1 3.2 "Priest Holes", Historic UK
  4. 4.0 4.1 Allan Fea, Secret Chambers and Hiding Places: Historic, Romantic, & Legendary Stories & Traditions About Hiding-Holes, Secret Chambers, Etc. Third and Revised Edition (Llundain: Methuen, 1908); adalwyd 27 Gorffennaf 2013
  5. "The Priest Hides". Harvington Hall. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-05-29. Cyrchwyd 13 March 2014.