Neidio i'r cynnwys

Tudur ap Gruffudd

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Tudur ap Gruffudd Fychan)
Tudur ap Gruffudd
Ganwydc. 1357 Edit this on Wikidata
Bu farw5 Mai 1405 Edit this on Wikidata
TadGruffudd Fychan II Edit this on Wikidata
MamElen ferch Thomas ap Llywelyn ab Owain ap Maredudd Edit this on Wikidata
PlantLowri ferch Tudur Edit this on Wikidata

Tudur ap Gruffudd neu Tudur ap Gruffudd Fychan (c.1357 - 1405) oedd un o ddau frawd Owain Glyn Dŵr ac un o gapteiniaid blaenaf y tywysog hwnnw.[1]

Bywgraffiad

[golygu | golygu cod]

Prin yw'r cofnodion penodol amdano. Cafodd ei eni tua'r flwyddyn 1357, dwy neu dair mlynedd ar ôl geni Glyn Dŵr ei hun, yn fab i Gruffudd Fychan (m. cyn 1370) a'i wraig Elen ferch Tomas ap Llywelyn. Diau iddo gael ei fagu ar aelwyd Sycharth, maenordy y teulu.[1]

Bu Tudur yn gydymaith agos i Glyn Dŵr o'r cychwyn cyntaf. Cofnodir iddo fynd i'r Alban gyda'i frawd a'r brudiwr Crach Ffinnant yn 1384 pan gawsant eu gwysio gan y brenin Rhisiart II o Loegr i wasanaethu gyda chatrawd o Gymry eraill yng ngarsiwn Berwick. Ymddengys ei fod yno tan 1385. Ymhlith y milwyr yno oedd Henry Percy, Iarll 1af Northumberland, a'i fab Hotspur; dau ŵr a fyddai'n chwarae rhan bwysig yn nes ymlaen yng ngwrthryfel Owain Glyn Dŵr. Roedd y brodyr gyda'i gilydd yng ngosgordd Iarll Arundel yn 1387 yn ogystal.[1]

Mae'r ail gofnod amdano yn dweud ei fod wrth ochr Glyn Dŵr pan lawnsiwyd y gwrthryfel ar 16 Medi 1400, yng Nglyndyfrdwy, Meirionnydd, trwy gyhoeddi Glyn Dŵr yn Dywysog Cymru. Cyfeirir ato fel arglwydd Gwyddelwern.[1]

Er na cheir cyfeiriadau ato yn bersonol, gellir derbyn fod Tudur wedi cymryd rhan mewn llawer o'r brwydro dros y blynyddoedd nesaf a welodd Glyn Dŵr yn ymestyn ei awdurdod dros rhan helaeth o'r wlad.[1]

Lladdwyd Tudur ym Mrwydr Pwll Melyn, ym mis Mai 1405.[1]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 1.5 R. R. Davies, The Revolt of Owain Glyn Dŵr (Rhydychen, 1995).