Tsitsi Dangarembga
Tsitsi Dangarembga | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd |
1959 ![]() Bulawayo ![]() |
Dinasyddiaeth |
![]() |
Alma mater |
|
Galwedigaeth |
ysgrifennwr, cyfarwyddwr ffilm ![]() |
Adnabyddus am |
Nervous Conditions ![]() |
Gwobr/au |
Gwobr y 100 Merch ![]() |
Awdures o Simbabwe oedd Tsitsi Dangarembga (ganwyd 1959) sy'n cael ei hystyried hefyd yn nodigedig am ei gwaith fel cyfarwyddwr ffilm. Cafodd ei nofel gyntaf, Nervous Conditions (1988), ei henwi fel un o'r 100 llyfr sydd wedi newid y byd; hon hefyd oedd y gyfrol gyntaf i gael ei hysgrifennu yn Saesneg gan fenyw ddu o Simbabwe
Fe'i ganed yn Bulawayo, sef ail ddinas fwyaf Simbabwe. Wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol Caergrawnt a Phrifysgol Simbabwe. [1][2][3]
Dechreuodd ei haddysg yn Lloegr, ond yn ddiweddarach aeth i Ysgol Uwchradd Hartzell, ysgol genhadol yn nhref Rhodesaidd (a newidiodd ei enw'n ddiwedarach i 'Simbabwe') Umtali ('Mutare' erbyn hyn).[4] Yna astudiodd feddygaeth ym Mhrifysgol Caergrawnt, lle cafodd brofiadau o hiliaeth a phobl yn ei hanwybyddu. Gadawodd Dangarembga Gaergrawnt a dychwelodd i Simbabwe ychydig fisoedd cyn i'r wlad ddatgan ei hannibyniaeth yn swyddogol.[5] [6]
Astudiodd seicoleg ym Mhrifysgol Simbabwe tra'n gweithio am ddwy flynedd fel ysgrifennwr copi mewn asiantaeth farchnata. Rhoddodd y profiad ysgrifennu cynnar hwn lwybr iddi fynegi ei hun: ysgrifennodd nifer o ddramâu, gan gynnwys The Lost of the Soil, ac yna ymunodd â'r grŵp theatr Zambuko. Cymerodd ran mewn cynhyrchu dwy ddrama, Katshaa a Mavambo.
Ffilmyddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]
- The Great Beauty Conspiracy, (1994)
- Passport to Kill, (1994)
- Schwarzmarkt, (1995)
- Everyone’s Child, (1995)
- The Puppeteer, (1996)
- Zimbabwe Birds, (1998 –with Olaf Koschke)
- On the Border, (2000)
- Hard Earth – Land Rights in Zimbabwe, (2001)
- Ivory, (2001)
- Elephant People, (2002)
- 'Mother’s Day, (2004)
- High Hopes, (2004)
- At the Water, (2005)
- Growing Stronger, (2005)
- The Sharing Day (2008)
- I Want a Wedding Dress, (2010)
- Ungochani, (2010)
- Nyami Nyami Amaji Abulozi, (2011).
Anrhydeddau[golygu | golygu cod y dudalen]
- Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Gwobr y 100 Merch (2020)[7] .
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Cyffredinol: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb12234349j; ffeil awdurdod y BnF; dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
- ↑ Rhyw: Lua error in Modiwl:Cite_Q at line 371: attempt to call upvalue 'getPropOfProp' (a nil value). Lua error in Modiwl:Cite_Q at line 371: attempt to call upvalue 'getPropOfProp' (a nil value). http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb12234349j; ffeil awdurdod y BnF; dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
- ↑ Dyddiad geni: Lua error in Modiwl:Cite_Q at line 371: attempt to call upvalue 'getPropOfProp' (a nil value).
- ↑ Rubert, Steven C. (2001). Historical Dictionary of Zimbabwe. London: The Scarecrow Press. t. 74. ISBN 0810834715.
- ↑ George, Rosemary Marangoly, et al. “An Interview with Tsitsi Dangarembga.” NOVEL: A Forum on Fiction, vol. 26, no. 3, 1993, pp. 309–319. JSTOR, JSTOR, www.jstor.org/stable/1345839.
- ↑ Anrhydeddau: https://www.bbc.com/news/world-55042935; dyddiad cyrchiad: 24 Tachwedd 2020.
- ↑ https://www.bbc.com/news/world-55042935; dyddiad cyrchiad: 24 Tachwedd 2020.