Tristan Taormino

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Tristan Taormino
Tristan Taormino, 2013 (cropped).jpg
Ganwyd 9 Mai 1971 Edit this on Wikidata
Syosset Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Unol Daleithiau America Unol Daleithiau America
Alma mater
  • Prifysgol Wesleyan Edit this on Wikidata
Galwedigaeth Actor, Cyfarwyddwr ffilm, Ysgrifennwr, addysgwr rhyw, actor pornograffig, actor ffilm, ffeminist, Cynhyrchydd ffilm Edit this on Wikidata
Gwobr/au Gwobr Lenyddol Lambda Edit this on Wikidata
Gwefan http://www.tristantaormino.com Edit this on Wikidata

Awdures Americanaidd yw Tristan Taormino (ganwyd 9 Mai 1971) sydd hefyd yn gyfarwyddwr ffilm, addysgwr rhyw actor pornograffig ac actores -gyfarwyddwr mewn dwy ffilm {1999–2000).

Fe'i ganed yn Syosset, Efrog Newydd ar 9 Mai 1971. [1][2]

Magwraeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Tristan Taormino yw unig blentyn Judith Bennett Pynchon a William J. Taormino. Ar ochr ei mam i'r teulu, mae Taormino yn ddisgynnydd i William Pynchon, ymsefydlwr cynnar o Loegr, a nith yr awdur Thomas Pynchon. Ysgarodd ei rhieni cyn i Tristan droi'n ddwy oed, pan ddaeth ei thad yn hoyw. Fe'i magwyd yn bennaf gan ei mam ar Long Island. Cafodd berthynas agos gyda'i thad Bill Taormino, a fu farw o AIDS ym 1995. Mynychodd Taormino Ysgol Uwchradd Sayville ar Long Island. Graddiodd Phi Beta Kappa gyda gradd baglor mewn Astudiaethau Americanaidd o'r Brifysgol Wesleaidd yn 1993.

Mae Taormino wedi darlithio mewn llawer o golegau a phrifysgolion, lle siaradai ar faterion hoyw a lesbiaidd, rhywioldeb a ffeministiaeth. Mae rhai o'i hymddangosiadau yn y coleg wedi ysgogi dadlau rhyngwladol.[3]

Awdures[golygu | golygu cod y dudalen]

Ffotograff ohoni yn y Feminist Porn Awards; Toronto, Canada; 2007

Mae Taormino yn awdur saith llyfr, ac enillodd Wobr Llyfrau Firecracker am ei chyfrol The Ultimate Guide i Anal Sex for Women.

Mae wedi golygu blodeugerddi gan gynnwys Gwobr Lenyddol Lambda a greodd ac a olygodd o 1996-2009, a Best Lesbian Erotica, a gyhoeddwyd gan Cleis Press.

Roedd yn golofnydd rheolaidd ar gyfer The Village Voice o 1999-2008, lle ysgrifennodd y golofn rhyw, ddwywaith yr wythnos, sef "Pucker Up."[4] Mewn print, ymddangosodd ei cholofn gyferbyn â cholofn Dan Savage, "Savage Love". Fe boblogeiddiodd ac ailddiffiniodd y term "queer heterosexual," yn ei cholofn yn 1995. Ysgrifennodd golofn o'r enw "The Anal Advisor" ar gtfer y cylchgrawn Taboo gan Hustler, ac mae'n parhau i fod yn golofnydd y Velvetpark. Bu'n olygydd On Our Backs, sef cylchgrawn lesbaidd hynaf USA.[5]

Mae wedi nodi, am ei rhywioldeb hi ei hun:

"I don't really identify with the label 'bisexual', nor does it feel like it accurately describes me...I see myself as queer, since queer to me is not just about who I love or lust, but it's about my culture, my community, and my politics. The truth is, even if I were with a heterosexual guy, I'd be a queer dyke."[6][7]

Aelodaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu'n aelod o Gymdeithas Phi Beta Kappa am rai blynyddoedd. [8]

Anrhydeddau[golygu | golygu cod y dudalen]


Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Rhyw: Ffeil Awdurdodi Rhyngwladol, dynodwr VIAF 4190989, https://viaf.org/, adalwyd 4 Tachwedd 2018Wikidata Q54919
  2. Dyddiad geni: http://www.iafd.com/person.rme/perfid=ttaormino/gender=f/tristan-taormino.htm. http://www.nndb.com/lists/512/000063323/.
  3. Godfrey, Sanne (17 Chwefror 2011). "Tristan Taormino Brings Honest Take on Sex to University". Daily Emerald (student newspaper) (University of Oregon). http://www.dailyemerald.com/news/tristan-taormino-brings-honest-take-on-sex-to-university-1.2002273. Adalwyd March 13, 2011.
  4. "Tristan Taormino". The Village Voice. http://www.villagevoice.com/authors/tristan-taormino/. Adalwyd 23 Medi 2016.
  5. Taormino, Tristan (May 6, 2003). "The Queer Heterosexual". The Village Voice. http://www.villagevoice.com/2003-05-06/columns/the-queer-heterosexual/. Adalwyd 12 Gorffennaf 2013.
  6. "PuckerUp Exclusive: Tristan talks about her identity". PuckerUp. Archifwyd o y gwreiddiol ar July 23, 2010. https://web.archive.org/web/20100723031740/http://www.puckerup.com/360/894.
  7. "Tristan Taormino, Sex Educator". Gothamist. August 19, 2004. Archifwyd o y gwreiddiol ar May 22, 2010. https://web.archive.org/web/20100522123654/http://gothamist.com/2004/08/19/tristan_taormino_sex_educator.php.
  8. Galwedigaeth: http://www.huffingtonpost.com/2013/11/12/tristan-taormino-feminist-porn_n_4260058.html. http://www.iafd.com/person.rme/perfid=ttaormino/gender=d/tristan-taormino.htm. http://us.macmillan.com/girlsguidetotakingovertheworld/KarenGreen. http://books.google.com/books/about/Girls_Guide_to_Taking_Over_the_World.html?id=WlH4QmUJE44C. http://www.sfgate.com/cgi-bin/article.cgi?f=/g/archive/2004/06/25/troche.DTL.