Trin gwallt

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Person yn trin gwallt menyw

Galwedigaeth yw trin gwallt sy'n ymwneud â thorri neu steilio gwallt er mwyn newid neu gynnal delwedd person. Cyflawnir hyn gan ddefnyddio cyfuniad o liwio gwallt, torri gwallt, a thechnegau gweadu gwallt. Mae'r rhan fwyaf o bobl sy'n trin gwallt wedi'u trwyddedu'n broffesiynol naill ai fel person trin gwallt, barbwr neu gosmetolegydd.

Hanes trin gwallt[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae trin gwallt fel galwedigaeth yn dyddio'n ôl filoedd o flynyddoedd. Darganfuwyd darluniau a pheintiadau celf hynafol sy'n dangos pobl sy'n gweithio ar wallt pobl eraill. Mae awduron Groeg Aristoffanes a Homeros yn sôn am drin gwallt yn eu gweithiau ysgrifenedig. Yn Affrica, credwyd mewn rhai diwylliannau bod ysbryd person yn meddiannu ei wallt, gan roi statws uchel i bobl sy'n trin gwallt yn y cymunedau hyn. Roedd statws trin gwallt yn annog llawer i ddatblygu eu sgiliau, ac adeiladwyd perthynas agos rhwng pobl oedd yn trin gwallt a'u cleientiaid. Byddai oriau'n cael eu treulio yn golchi, cribo, rhoi olew, steilio ac addurno eu gwallt. Byddai dynion yn gweithio'n benodol ar ddynion a menywod ar fenywod eraill. Cyn y byddai person a oedd yn trin gwallt yn marw, byddent yn rhoi eu cribau a'u hoffer i olynydd dewisedig mewn seremoni arbennig. [1]

Yn yr Hen Aifft, roedd gan bobl trin gwallt flychau wedi'u haddurno'n arbennig i ddal eu hoffer, gan gynnwys golchdrwythau, sisyrnau a deunyddiau steilio. Roedd barbwyr hefyd yn gweithio fel pobl trin gwallt, ac yn aml roedd gan ddynion cyfoethog eu barbwyr personol yn eu cartref. Gyda'r safon a roed i wisgo wigiau o fewn y diwylliant, hyfforddwyd gwneuthurwyr wigiau hefyd i drin gwallt. Yn Rhufain hynafol a Groeg yr Henfyd byddai caethweision a gweision yn cyflawni rôl pobl trin gwallt, a byddai eu gwaith yn cynnwys lliwio ac eillio . Byddai dynion nad oedd ganddynt eu gwasanaethau preifat ar gyfer trin gwallt ac eillio yn ymweld â'r siop barbwr leol. Roedd gwallt menywod yn cael ei gynnal a'i drin yn eu cartrefi. Mae diffyg dogfennaeth hanesyddol yn ymwneud â steiliau gwallt o'r 5g hyd at y 14g. Tyfodd y galw am wasanaeth trin gwallt ar ôl i archddyfarniad y Pab yn 1092 fynnu bod yr holl glerigwyr Catholig yn cael gwared â blew'r wyneb.[1]

Yn y cyfnod modern, daeth trin gwallt i'w weld fel proffesiwn yn Ewrop yn ystod y 17g. Roedd ffasiwn gwallt y cyfnod yn awgrymu bod menywod cyfoethog yn gwisgo steiliau gwallt mawr, cymhleth a oedd wedi'u haddurno'n drwm. Byddai rheini'n cael eu cynnal gan eu morynion personol a phobl eraill a fyddai'n treulio oriau yn paratoi'r gwallt. Byddai gwallt dynion cyfoethog yn aml yn cael ei gynnal gan valet. Yn Ffrainc y dechreuodd dynion steilio gwallt merched am y tro cyntaf, ac roedd llawer o bobl trin gwallt nodedig yn ddynion, tueddiad a fyddai'n parhau hyd heddiw. Y person trin gwallt a oedd yn ddyn ac a ddaeth yn enwog oedd Champagne, a anwyd yn Ne Ffrainc. Ar ôl symud i Baris, agorodd ei salon gwallt ei hun a gwisgodd wallt menywod cyfoethog ym Mharis nes iddo farw yn 1658.[1]

Tyfodd gwallt y merched yn dalach mewn steil yn ystod yr 17g, a chafodd ei boblogeiddio gan y person trin gwallt Madame Martin. Steil gwallt "y twr" oedd yn ffasiynol gyda menywod cyfoethog o Loegr ac America, a oedd yn dibynnu ar bobl trin gwallt i steilio eu gwallt mor uchel â phosibl. Byddai pentyrrau uchel o gyrliau yn cael eu pomio, eu powdro a'u haddurno â rhubanau, blodau, les, plu a gemwaith. Lansiwyd y proffesiwn trin gwallt fel proffesiwn gwirioneddol pan gafodd Legros de Rumigny ei gyhoeddi'n berson trin gwallt swyddogol cyntaf y llys Ffrengig. Yn 1765 cyhoeddodd de Rumigny ei lyfr Art de la Coiffure des Dames a oedd yn trafod trin gwallt ac yn cynnwys lluniau o steiliau gwallt a ddyluniwyd ganddo. Gwerthodd y llyfr yn dda ymhlith menywod Ffrengig, a phedair blynedd yn ddiweddarach agorodd de Rumigny ysgol ar gyfer pobl a oedd am ddysgu trin gwallt: Academie de Coiffure. Yn yr ysgol dysgodd ddynion a menywod i dorri gwallt a chreu ei ddyluniadau gwallt arbennig. [1]

Erbyn 1777, roedd tua 1,200 o bobl trin gwallt yn gweithio ym Mharis. Yn ystod y cyfnod hwn, ffurfiodd y barbwyr undebau, gan fynnu bod trinwyr gwallt yn gwneud yr un peth. Roedd gwneuthurwyr wigiau hefyd yn mynnu bod trinwyr gwallt yn rhoi'r gorau i gymryd eu masnach oddi wrthynt, ac ymatebodd trinwyr gwallt nad oedd eu rolau yr un fath: roedd trin gwallt yn wasanaeth, ac roedd gwneuthurwyr wigiau wedi gwneud a gwerthu cynnyrch. Bu farw de Rumigny yn 1770 ac daeth pobl trin gwallt eraill yn boblogaidd, yn benodol y tri Ffrancwr: Frederic, Larseueur, ac Léonard. Leonard a Larseueur oedd y steilwyr iMarie Antoinette. Leonard oedd ei ffefryn, a datblygodd sawl steil gwallt a ddaeth yn ffasiynol mewn cylchoedd cyfoethog ym Mharis, gan gynnwys y loge d'opera, a oedd yn cyrraedd uchder o bum troedfedd dros ben y gwisgwr.[1][2] Yn ystod y Chwyldro Ffrengig dihangodd y wlad oriau cyn iddo gael ei arestio, ochr yn ochr â'r brenin, y frenhines a chleientiaid eraill. Ymfudodd i Rwsia, lle bu'n gweithio fel prif berson trin gwallt i uchelwyr Rwsia.[1]

Parhaodd pobl trin gwallt Paris i ddatblygu arddulliau dylanwadol yn gynnar yn y 19g. Byddai gan fenywod Ffrengig cyfoethog eu hoff bobl trin gwallt yn steilio eu gwalltiau yn eu cartrefi eu hunain, tueddiad a welwyd mewn cymunedau rhyngwladol cyfoethog. Roedd trin gwallt yn wasanaeth a oedd yn bennaf yn fforddiadwy i'r rhai a oedd yn ddigon cyfoethog i logi gweithwyr proffesiynol neu i dalu am weision i ofalu am eu gwallt. Yn yr Unol Daleithiau, Marie Laveau oedd un o bobl trin gwallt enwocaf y cyfnod. Dechreuodd Laveau, a iedd wedi'i lleoli yn New Orleans, weithio fel person trin gwallt ar ddechrau'r 1820au, gan gynnal gwallt menywod cyfoethog y ddinas. Roedd yn defnyddio voodoo ac yn cael ei galw'n "Frenhines Voodoo New Orleans," a defnyddiodd ei chysylltiadau â merched cyfoethog i gynnal ei harferion crefyddol. Rhoddodd "gymorth" i fenywod oedd ei angen am arian, anrhegion a ffafrau eraill. [1]

Datblygodd y person trin gwallt Ffrengig Marcel Grateau y "don Marcel" ar ddiwedd y ganrif. Roedd ei don yn gofyn am ddefnydd o haearn gwallt arbennig ac roedd angen i berson trin gwallt profiadol ei wneud. Gofynnai menywod ffasiynol i'w gwalltiau gael ei "farcelio." Yn ystod y cyfnod hwn, dechreuodd pobl trin gwallt agor salonau mewn dinasoedd a threfi, gydag Martha Matilda Harper yn arwain gyda'i chadwyn manwerthu o salonau gwallt, yr 'Harper Method'.[1]

Daeth salonau harddwch yn boblogaidd yn ystod yr 20g, ochr yn ochr â siopau barbwr i ddynion. Roedd y mannau hyn yn fannau cymdeithasol a oedd yn gyfle i fenywod gymdeithasu tra'n gwneud eu gwalltiau a chael gwasanaethau eraill fel trin wynebau. Roedd menywod cyfoethog yn dal i gael pobl trin gwallt yn ymweld â'u cartrefi, ond, byddai mwyafrif y menywod yn ymweld â salonau, gan gynnwys salonau safon uchel fel Salon Drws Coch Elizabeth Arden.[1]

Bu datblygiadau mawr mewn offer trin gwallt yn ystod y cyfnod hwn. Arweiniodd trydan at ddatblygu peiriannau tonnau parhaol a sychwyr gwallt. Roedd yr offer hyn yn caniatáu i bobl trin gwallt hyrwyddo ymweliadau â'u salonau fel gwasanaethau a allai gynnig mwy na'r hyn a gynigiai'r gwasanaethau cartref cyfyngedig. Datblygwyd prosesau lliwio newydd, gan gynnwys y rhai gan Eugene Schueller ym Mharis, a oedd yn caniatáu i bobl trin gwallt berfformio technegau steilio cymhleth. Ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf, daeth y toriad bob a'r 'shingle bob' yn boblogaidd, ochr yn ochr â thoriadau byrion eraill. Yn y 1930au daeth arddulliau cymhleth yn ôl i ffasiwn, ochr yn ochr â dychweliad 'ton Marcel'. Roedd trin gwallt yn un o'r ychydig broffesiynau derbyniol i fenywod yn ystod y cyfnod hwnnw, ynghyd â gwaith addysgu, nyrsio a chlerigol.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 1.5 1.6 1.7 1.8 1.9 Victoria Sherrow (2006). Encyclopedia of hair: a cultural history. Greenwood Publishing Group. pp. 161–164. ISBN 978-0-313-33145-9. Cyrchwyd 15 September 2011.
  2. Brown-Paynter, R. (1894–1895). "Freaks of Fashion". Atalanta 8: 163.