Neidio i'r cynnwys

Trajan Hughes

Oddi ar Wicipedia
Trajan Hughes
Ganwyd1669, 1670 Edit this on Wikidata
Llanaelhaearn Edit this on Wikidata
Bu farw1779, 1743 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaetharlunydd Edit this on Wikidata
Un o weithiau olew'r arlunydd Trajan Hughes, yn ddarlun o anifeiliaid ar fferm.

Arlunydd o Gymru oedd Trajan Hughes[1] (ganwyd c. 1670; fl 1709-12)[2] a beintiai'r rhan fwyaf o'i waith gyda phaent olew. Cafodd ei eni yng Nghwm Corryn, Llanaelhaearn, Gwynedd a gwyddys ei fod yn gyfaill i'r arlunydd Francis Barlow. Roedd Trajan yn un o arlunwyr cyntaf gwledydd Prydain i ddarlunio anifeiliaid ac mae ei waith yn gymharol brin.

Mae ei luniau o adar yn dangos manylder eithriadol ond eto syml a'i ddewis o liwiau'n ein hatgoffa o arlunwyr o'r Iseldiroedd.

Ei dad oedd John Hughes (neu John ap Huw) ac enw'i fam oedd Mary Maredydd o Glynnog.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. ↑ Gwefan answers.com; adalwyd 16 Ionawr 2013
  2. ↑ Gwefan 'Family Search'; Archifwyd 2016-03-04 yn y Peiriant Wayback adalwyd 16 Rhagfyr 2013

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]
Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am un o Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.