Torra d'Erbalunga

Oddi ar Wicipedia
Torra d'Erbalunga
MathTyrau Genoa yng Nghorsica Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirBrando Edit this on Wikidata
GwladBaner Corsica Corsica Baner Ffrainc Ffrainc
Cyfesurynnau42.7736°N 9.47694°E Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethheneb hanesyddol cofrestredig Edit this on Wikidata
Manylion

Mae Tŵr Erbalunga (Corseg:Torra d'Erbalunga) yn dŵr Genoa adfeiliedig ger Erbalunga wedi ei leoli yn commune Brando (Haute-Corse) ar arfordir dwyreiniol ynys Cap Corse, Corsica. Mae'n sefyll ar bwynt caregog ger mynediad deheuol porthladd Erbalunga.

Hanes[golygu | golygu cod]

Roedd twr yn sefyll yn Erbalunga ym 1488. Cafodd ei ddinistrio gan luoedd Ffrainc wrth iddynt ymosodiad ar Corsica ym 1553 fel rhan o'r rhyfel rhwng Ffrainc a'r Eidal 1551 - 1559 . Adferwyd y tŵr ym 1560 i fod yn un o'r gyfres o amddiffynfeydd arfordirol a adeiladwyd gan Weriniaeth Genoa rhwng 1530 a thua 1620 i atal ymosodiadau gan fôr-ladron Barbari.[1] Ar 24 Ionawr 1995 fe restrwyd y tŵr fel un o henebion hanesyddol (Monument historique) Ffrainc.[2]

Galeri[golygu | golygu cod]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Graziani, Antoine-Marie (2000). "Les ouvr ages de défense en Corse contre les Turcs (1530-1650)". In Vergé-Franceschi, Michel; Graziani, Antoine-Marie (gol.). La guerre de course en Méditerranée (1515-1830). Paris: Presses de l'Université Paris IV-Sorbonne. tt. 98, 111. ISBN 2-84050-167-8.
  2. "Monuments historiques: Torra d'Erbalunga". Ministère de la culture. Cyrchwyd 3 Awst 2018..

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Cyfryngau perthnasol Tŵr d'Erbalunga ar Gomin Wicimedia