Tom Beynon
Gwedd
| Tom Beynon | |
|---|---|
| Ganwyd | 3 Mehefin 1886 Cydweli, Mynydd-y-garreg |
| Bu farw | 10 Chwefror 1961 |
| Dinasyddiaeth | |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | gweinidog yr Efengyl, hanesydd, ysgrifennwr |
Hanesydd o Gymru oedd Tom Beynon (3 Mehefin 1886 – 10 Chwefror 1961). Roedd yn arbenigwr ar hanes Ymneilltuaeth yng Nghymru, yn enwedig hanes y Methodistiaid Calfinaidd.
Ganed Tom Beynon ger Cydweli, yn Sir Gaerfyrddin. Ar ôl astudio diwinyddiaeth yng Ngholeg y Bala aeth yn weinidog.
Cyhoeddodd nifer o erthyglau a bu'n olygydd cylchgrawn hanes y Methodistiaid am gyfnod. Ei brif waith academaidd oedd golygu llythyrau Howel Harris. Cyhoeddodd ddwy gyfrol o atgofion a hanesion am ei fro enedigiol hefyd.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]Llythyrau Howel Harris (golygydd):
- Howell Harris, Reformer and Soldier (1958)
- Howell Harris's visits to London (1960)
- Howell Harris's visits to Pembrokeshire (1966)
Atgofion:
- Allt Cunedda (1935)
- Cwnsêl a Chefn Sidan (1946)