Toddion
Gwedd
(Ailgyfeiriad o Toddion cig eidion)
Mae "toddion cig moch" yn ailgyfeirio i'r erthygl hon. Efallai eich bod yn chwilio am bloneg.
Braster a geid allan o gig wrth ei rostio neu ei ffrio yw toddion[1], dripin[2] neu dripyn.[3] Gan amlaf daw o gig eidion, ond weithiau ceir toddion cig moch. Fe'i gasglir a'i loywi, hynny yw ei ddiwaddodi, gan ffurfio braster solet a werthir mewn blociau. Arferid taenu toddion ar fara a'i alw'n frechdan doddion.[4] Yn y gegin fodern defnyddir i rostio tatws neu ei rwbio ar olwyth o gig i'w gadw'n wlyb wrth iddo goginio.[5]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ S. Minwel Tibbott. Geirfa'r Gegin (Amgueddfa Werin Cymru, 1983), t. 66.
- ↑ Tibbott. Geirfa'r Gegin (1983), t. 61.
- ↑ dripyn. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 30 Mehefin 2015.
- ↑ brechdan. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 30 Mehefin 2015.
- ↑ Good Housekeeping Food Encyclopedia (Llundain, Collins & Brown, 2009), t. 17.