Tiger Woods
Tiger Woods | ||
---|---|---|
![]() | ||
Gwybodaeth Bersonol | ||
Enw Llawn | Eldrick Woods | |
Dyddiad Geni | 30 Rhagfyr, 1975 | |
Man Geni | Cypress, UDA | |
Cenedligrwydd | Americanwr | |
Taldra | 1.85m | |
Pwysau | 84cg | |
Llysenw | Tiger | |
Gyrfa | ||
Troi yn Bro | 1996 | |
Taith Gyfoes | Taith PGA | |
Buddugoliaethau Proffesiynnol |
85 | |
Buddugolaethau yn y Prif Bencampwriaethau | ||
Y Meistri | 1997, 2001, 2002, 2005 | |
Pencampwriaeth Agored Unol Daleithiau America |
2000, 2002 | |
Pencampwriaeth Agored Prydain |
2000, 2005, 2006 | |
Pencampwriaeth y PGA | 1999, 2000, 2006, 2007 |
Golffiwr proffesiynnol o'r Unol Daleithiau yw Eldrick "Tiger" Woods (ganed 30 Rhagfyr 1975).)[1][2] Caiff ei ystyried yn un o olffwyr Americanaidd mwyaf llwyddiannus erioed. Bu ar Restr Forbes o olffwyr sydd wedi derbyn y cyflogau uchaf erioed hefyd. Mae ei lwyddiannau yn nhaith y Proffesional Golfers Association yn rhai syfrdanol.
Bu mewn coleg golff am ddwy flynedd a throdd yn brioffesiynol yn Haf 1996, yn 20 oed. Erbyn Ebrill y flwyddyn wedyn, roedd wedi ennill un o brif gystadleuthau mawr y byd - Pencampwriaeth Agored Unol Daleithiau America, 1997, gan bocedu $486,000. Ym Mehefin 1997 ef oedd golffiwr gorau'r byd (Rhif Un ar Restr Official World Golf Ranking). Drwy'r 2000au fe'i hystyriwyd fel golffiwr gorau'r byd.
Dŵr poeth[golygu | golygu cod y dudalen]
Rhwng Rhagfyr 2009 ac Ebrill 2010, fodd bynnag, ni chwaraeodd golff, a chanolbwyntiodd ar ei fywyd priodasol gydag Elin Nordegren. Roedd hyn yn dilyn cyfnod o fercheta gydag eraill, a chawsant ysgariad. Cyhoeddwyd sawl stori amdano, gyda nifer o ferched yn hawlio iddynt gael affer gydag ef. Cafodd y cyfnod hwn effaith negyddol iawn ar ei gêm, gan ddisgyn i Rif 58 yn Nhachwedd 2011.[3] Wedi 107 wythnos o fethu a chipio unrhyw wobr, enillodd y Chevron World Challenge. Enillodd yr Arnold Palmer Invitational ar 25 Mawrth 2013 a chododd yn ei ôl i Rif 1, drwy'r byd. Daliodd ei afael ar hwnnw hyd at Mai 2014.
Derbyniodd lawdriniaeth ar ei gefn ddwywaith yn Ebrill 2014 a Medi 2015.[4] Erbyn Mawrth 2015 roedd yn Rhif 104.[5] In May 2016, Woods dropped out of the world top 500 for the first time in his professional career.[6]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Sounes, Howard (2004). The Wicked Game: Arnold Palmer, Jack Nicklaus, Tiger Woods, and the Story of Modern Golf. Harper Collins. tt. 120–121, 293. ISBN 0-06-051386-1.
- ↑ Tiger Woods Biography: Golfer; 1975 Biography.com (FYI / A&E Networks) 3 Mai 2015
- ↑ Newyddion y BBC; Westwood becomes world number one; adalwyd 31 Hydref 2010
- ↑ "Tiger Undergoes Successful Back Surgery, Is Hopeful To Return In Early 2016". TigerWoods.com. 18 Medi 2015. Cyrchwyd April 6, 2015.
- ↑ "Tiger Woods decides to play in the Masters". USA Today. 3 Ebrill 2015.
- ↑ Tiger Woods falls out of world top 500; bunkered.co.uk.