Thomas Malthus
Gwedd
Thomas Malthus | |
---|---|
Ganwyd | Thomas Robert Malthus 13 Chwefror 1766, 14 Chwefror 1766 Westcott, Surrey |
Bu farw | 23 Rhagfyr 1834 Caerfaddon |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon, Teyrnas Prydain Fawr |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | economegydd, awdur ysgrifau, ystadegydd, demograffegwr, offeiriad Anglicanaidd, cymdeithasegydd, mathemategydd, ysgrifennwr |
Adnabyddus am | Malthusian growth model, Malthusianism, An Essay on the Principle of Population, Malthusian catastrophe |
Prif ddylanwad | Jean-Jacques Rousseau |
Tad | Daniel Malthus |
Mam | Catherine Graham |
Priod | Harriet Eckersall |
Plant | Henry Malthus, Lucy Malthus, Emily Malthus |
Gwobr/au | Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol |
Economegydd a chlerigwr o Sais oedd Thomas Robert Malthus (14 Chwefror 1766 - 23 Rhagfyr 1834), a aned ger Dorking, Surrey, yn ne Lloegr. Mae'n adnabyddus am ei waith dylanwadol An Essay on the Principle of Population (1798 a 1807), llyfr a gadarnheuodd ddamcaniaeth detholiad naturiol ym meddwl Charles Darwin.
Galwodd Malthus am fesurau i reoli tyfiant poblogaeth trwy ddulliau atalgenhedlu neu lwyrymwrthod â chyfathrach rhywiol. Cododd ei waith wrychyn nifer o wrthwynebwyr ceidwadol.
Mae ei lyfrau eraill yn cynnwys An Inquiry into the Nature and Progress of Rent (1815) a Priciples of Political Economy (1820), llyfr a fraenarodd y tir ar gyfer gwaith David Ricardo.