Thomas James Jenkin
Gwedd
Thomas James Jenkin | |
---|---|
Ganwyd | 8 Ionawr 1885 Maenclochog, Budloy |
Bu farw | 1965 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | botanegydd |
Swydd | llywydd corfforaeth |
Cyflogwr | |
Priod | Kate Laura Jenkin |
Mab fferm o Faenclochog, Sir Benfro oedd Thomas James Jenkin (1885–1965), a botanegydd enwog a ddarganfyddodd math o rygwellt parhaol ym Mhenfro y gellid ei bori gan anifeiliaid, heb ei niweidio. Ni fu erioed mewn ysgol uwchradd, eithr aeth yn syth i'r brifysgol yn Aberystwyth. Cafodd ei benodi'n Gyfarwyddwr y Fridfa Blanhigion, ac yna'n Athro botaneg amaethyddol yn Aberystwyth yn 1942.