Thomas Hanmer, 4ydd Barwnig

Oddi ar Wicipedia
Thomas Hanmer, 4ydd Barwnig
Ganwyd24 Medi 1677 Edit this on Wikidata
Llys Bedydd Edit this on Wikidata
Bu farw7 Mai 1746 Edit this on Wikidata
Sussex Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethgolygydd, gwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod Seneddol yn Senedd Lloegr, Aelod o Senedd 1af Prydain Fawr, Aelod o Ail Senedd Prydain Fawr, Aelod o 3ydd Senedd Prydain Fawr, Aelod o 4edd Senedd Prydain Fawr, Aelod o 5ed Senedd Prydain Fawr, Aelod o 6ed Senedd Prydain Fawr, Aelod o Senedd 1701, Aelod o Senedd 1701-02, Aelod o Senedd 1702-05, Aelod o Senedd 1705-07 Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolTori Edit this on Wikidata
TadWilliam Hanmer Edit this on Wikidata
MamPeregrine North Edit this on Wikidata
PriodIsabella FitzRoy, Elizabeth Folkes Edit this on Wikidata

Roedd Syr Thomas Hanmer, 4ydd Barwnig (24 Medi 1677 - 7 Mai 1746) yn wleidydd Cymreig a wasanaethodd fel Llefarydd Tŷ Cyffredin Prydain Fawr rhwng 1714 a 1715, gan gyflawni dyletswyddau'r swydd gyda didueddrwydd amlwg. Roedd ei ail briodas yn destun sgandal wedi i'w wraig rhedeg ymaith i fyw tu allan i briodas gyda'i gefnder, Thomas Hervey. Mae hefyd yn cael ei gofio fel un o olygyddion cynnar gweithiau William Shakespeare.

Bywyd[golygu | golygu cod]

Ganed Hanmer ym Mhlas Llys Bedydd ger Wrecsam

Roedd yn fab i William Hanmer a Peregrine, merch a chyd aeres Syr Henry North, Barwnig 1af Mildenhall, Suffolk.[1][2]

Fe'i ganed rhwng 10 ac 11 yr hwyr yn nhŷ ei daid Syr Thomas Hanmer, 2il Farwnig, ym Mharc Llys Bedydd (Bettisfield),[3][4] ger Wrecsam.[5][6] Mae'n ymddangos bod ei dad William wedi marw'n gynnar. Addysgwyd Thomas yn Bury St Edmunds, yn Ysgol Westminster ac Eglwys Crist, Rhydychen, gan fatriciwleiddio ar 17 Hydref 1693, yn 17 oed. Enillodd Hanmer gradd doethuriaeth y gyfraith (Ll.D., o Brifysgol Caergrawnt ym 1705.[7]

Etifeddodd y Farwnigaeth ym 1701 pan fu farw ei ewythr, Syr John Hanmer y 3ydd Barwnig, mewn gornest [8] heb adael olynydd.[9]

Roedd yn AS Torïaidd uchel eglwysig dros Thetford rhwng 1701 a 1702 1705–8. Gwasanaethodd fel AS Sir y Fflint rhwng 1702 a 1705; ac AS Suffolk 1708–27. [10] Etholwyd ef yn unfrydol i swydd Llefarydd Tŷ'r Cyffredin ym mis Chwefror 1714, yn ystod y llywodraeth Dorïaidd olaf am gyfnod o fwy na 100 mlynedd. Rhannwyd y blaid Dorïaidd rhwng y rhai (fel Hanmer) a oedd yn dymuno cynnal yr olyniaeth Brotestannaidd ym Mhrydain, a'r rhai â thueddiadau Jacobeaidd a gefnogodd James Stuart, 'Yr Hen Ymhonnwr'. Ar ôl marwolaeth y Frenhines Anne ym mis Awst 1714, penododd Siôr I llywodraeth a gyfansoddwyd yn gyfan gwbl o Chwigiaid. Diddymwyd Tŷ’r Cyffredin ym mis Ionawr 1715, ac ni chyflwynwyd Hanmer i’w ailethol i swydd y Llefarydd: yn ei le etholwyd Spencer Compton (Iarll 1af Wilmington a’r Prif Weinidog yn ddiweddarach) yn Llefarydd ar 17 Mawrth 1715, [11] [8] er i Hanmer barhau i wasanaethu fel AS tan 1727.[12] Cafodd y blaid Dorïaidd ei gwahardd o bob swydd yn y llywodraeth hyd 1760 ac esgyniad Siôr III.[13]

Gwasanaeth amgen i wleidyddiaeth[golygu | golygu cod]

Roedd yn un o'r llywodraethwyr gwreiddiol a sefydlodd y Foundling Hospital, elusen a sefydlwyd ar gyfer plant cawsant eu gadael heb ofal gan eu rhieni yn Llundain ym 1739, a ddaeth hefyd yn ganolfan ar gyfer y celfyddydau.[14][15]

Bu'n gyfrifol am adeiladu a gwaddoli cartref i'r henoed tlawd ym Mildenhall, pentref magwraeth ei fam, ym 1722. Mae cartref, a enwyd yn ''Bunbury Rooms'' er anrhydedd i'w frawd-yng-nghyfraith a'i gofiannydd Henry Edward Bunbury, yn parhau i ddarparu gwasanaeth tebyg hyd heddiw.

Cyfieithiad: i leddfu tlodi a henaint adeiladodd a gwaddolodd gan y Barwnig Thomas Hanmer OC 1722

Gweithgareddau llenyddol[golygu | golygu cod]

Cyhoeddwyd llyfr Hanmer Shakespeare yn Rhydychen ym 1743-44, gyda bron i ddeugain o ddarluniau gan Francis Hayman a Hubert Gravelot. Mae The Cambridge History of English and American Literature yn nodi bod "Y print a'r rhwymo yn odidog, ac wedi peri i'w werth godi i naw gini, pan oedd cyhoeddiad Warburton yn mynd am ddeunaw swllt." [16]

Roedd llyfr Hanmer, yn seiliedig ar ei ddetholiad ei hun o addasiadau o gasgliadau o waith Shakespeare gan Alexander Pope a Lewis Theobald, ynghyd â’i ddyfaliadau ei hun, heb nodi i’r darllenydd beth oedd ffynhonnell ei destunau na’r hyn a gywirwyd yn olygyddol. Felly, nid yw argraffiad Hanmer yn cael ei barchu lawer heddiw. Dywedodd golygyddion The Oxford Shakespeare yn ei asesu yn y llyfr William Shakespeare: A Textual Companion fel "un o'r gwaethaf o'r ddeunawfed ganrif." [17]

Priodasau a sgandal[golygu | golygu cod]

Gwraig gyntaf Hanmer: Isabella, Duges Weddw Grafton gyda'i mab Charles, 2il Ddug Grafton

Bu Hanmer yn briod ddwywaith. Priododd am y tro gyntaf ym 1698 gyda Isabella FitzRoy, Duges Grafton, merch ac aeres Henry Bennet, Iarll 1af Arlington, a gweddw Henry Fitzroy, Dug 1af Grafton, mab gordderch y Brenin Siarl II.[18] Bu hi farw ym 1723.

Priododd am yr ail dro ym 1725 gydag Elizabeth Folkes, unig ferch Thomas Folkes o Great Barton, Suffolk. Roedd Elizabeth yn llawer iau na'i gŵr ac roedd y cwpl yn anaddas i'w gilydd; yn benodol, ni rannodd ei wraig ei gariad at Shakespeare. Achosodd y briodas sgandal nodedig ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach wedi i Elizabeth rhedeg i ffwrdd gyda Thomas Hervey, mab iau John Hervey, Iarll 1af Bryste, cefnder Hanmer. Bu i Hervey ac Elizabeth mab gordderch, Thomas ganddo. Bu Thomas Hervey, y dywedwyd yn aml ei fod yn wallgof, yn erlid Hanmer am flynyddoedd gan honni bod eiddo Elizabeth, a ddygwyd i'r briodas, bellach yn eiddo iddo ef. Gwrth ddadl Hanmer i hawliad Hervey oedd bod tad Elizabeth wedi setlo'r eiddo yn ddiamod ar ei fab yng nghyfraith, ac nad oedd gan Elizabeth na'i disgynnydd o fastard unrhyw hawl iddo. Roedd Hanmer yn bygwth erlyn Hervey am sgwrs droseddol (athrod) parthed ei hawliadau, ond fe ymddengys na ddaeth dim o'r bygythiad.

Marwolaeth[golygu | golygu cod]

Bu farw ym 1746 a chladdwyd ef yn Hanmer. [19] Ni fu iddo etifedd o'r naill briodas na'r llall ac felly diflannodd y farwnigaeth ar ei farwolaeth.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Burke, John Bernard. A genealogical and heraldic history of the extinct and dormant baronetcies
  2. Hayton, D. W. (2003). Hanmer, Thomas II (1677-1746), of Pall Mall, Westminster; Bettisfield Park, Flints.; and Mildenhall, Suff. The History of Parliament. Accessed 22 December 2015. Contains a lengthy and detailed political biography of Sir Thomas.
  3. Bettisfield Hall, (also known as Bettisfield Park), Bettisfield, Wales Archifwyd 2018-06-29 yn y Peiriant Wayback.. Parks and Gardens UK. Accessed on 21 December 2015.
  4. See entry "Hanmer" under Lewis, Samuel (1849). A Topographical Dictionary of Wales: 'Halghston - Hawarden'. (London, 1849), pp. 396-411. British History Online. Accessed 17 December 2015.
  5. Hanmer, John Lord (1877). A Memorial of the Parish and Family of Hanmer in Flintshire, out of the thirteenth into the nineteenth century. London: privately printed at the Chiswick Press, pp. 63, 107, 149ff.
  6. Bunbury, Henry Edward (1838). The correspondence of Sir Thomas Hanmer ... with a memoir of his life, to which are added, other relicks of a gentleman's family. London: Edward Moxon.CS1 maint: ref=harv (link)
  7. Venn, John; Venn, J. A. (1922). Alumni Cantabrigienses: A Biographical List of All Known Students, Graduates and Holders of Office at the University of Cambridge, from the Earliest Times to 1900, Volume 1, part 2: Dabbs-Juxton. Cambridge University Press.CS1 maint: ref=harv (link), p. 299
  8. 8.0 8.1 Dodd, Arthur Herbert. Hanmer family. Dictionary of Welsh Biography, online edition. Retrieved 22 December 2015.
  9. George E. Cokayne Complete Baronetage, Vol. 1 (1900)
  10. Venn & Venn 1922, t. 299.
  11. Bunbury 1838, t. 61-2.
  12. Sedgwick, Romney R. (ed.) Hanmer, Sir Thomas, 4th Bt. (1677-1746). The History of Parliament. Accessed 22 December 2015.
  13. Eveline Cruickshanks, Political Untouchables; The Tories and the '45 (Duckworth, 1979), p. 6.
  14. Copy of the Royal Charter Establishing an Hospital for the Maintenance and Education of Exposed and Deserted Young Children. London: Printed for J. Osborn, at the Golden-Ball in Paternoster Row. 1739.
  15. R.H. Nichols and F A. Wray, The History of the Foundling Hospital London: Oxford University Press, 1935, p. 347.
  16. A.W. Ward, et al., The Cambridge history of English and American literature: An encyclopedia in eighteen volumes. "XI. The Text of Shakespeare. § 13. Hanmer’s edition." New York: G.P. Putnam’s Sons; Cambridge, England: University Press, 1907–21. Accessed at bartleby.com on 9 November 2006.
  17. Stanley Wells & Gary Taylor, et al., William Shakespeare: A Textual Companion (NY: Norton, 1997 [reprint of Oxford University Press ed., 1987]), p. 54. ISBN 0-393-31667-X.
  18. "SELECTED BRIEF BIOGRAPHIES" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2016-07-29. Cyrchwyd 2013-01-27.
  19. Venn & Venn 1922.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]