Thomas Challoner

Oddi ar Wicipedia
Thomas Challoner
Bu farw1598 Edit this on Wikidata
GalwedigaethNorroy and Ulster King of Arms, achrestrydd, achydd Edit this on Wikidata
PlantJacob Chaloner Edit this on Wikidata

Arlunydd a hynafieithydd oedd Thomas Challoner (bu farw 1598). Roedd hefyd yn baentiwr, hynafiaethydd, bardd, ac actiwr. Pedwerydd mab ydoedd i Robert Chaloner, Dinbych, a'i wraig Dowce, ferch Richard Mathew, Lleweni Green, gerllaw Dinbych, a'i wraig Jane, ferch David Myddelton, Gwaynynog. Bu Thomas Chaloner yn gwasnaethu'r College of Heralds am rai blynyddoedd o dan y teitl Deputy to the Office of Arms. Dywedir iddo gael ei ddewis yn Ulster King of Arms y diwrnod y bu farw, sef 14 Mai 1598, eithr nid ydyw Anthony Wagner (gw. isod) yn credu i hyn ddigwydd eithr yn hytrach i Chaloner gael ei gyfrif yn ddirprwy-herodr yn Sir Gaer. Priododd, 8 Tachwedd 1584, Elizabeth, merch Thomas Alcock, Caer. Mab iddynt oedd Jacob Chaloner (1586-1631 ), a oedd yntau'n herodr ac a fu farw yn Llundain 25 Tachwedd 1631. Cymerasai Thomas Chaloner yn brentis, 10 Ionawr 1587, Randle Holme I, sef y cyntaf o bedair cenhedlaeth o'r un enw a ddaeth yn enwog fel achyddion. Priododd Randle Holme I weddw ei feistr a chymryd ei lys-fab, Jacob, yn brentis.

Gor-nai i Thomas Chaloner oedd Robert Chaloner (1612-1675), Lloran, Sir Ddinbych, a Roundway, Wiltshire, a ddaeth yn Bluemantle Pursuivant yn 1660 a Lancaster Herald yn 1665.

Fe'i claddwyd yn Eglwys Sant Mihangel, Caer.

Ffynonellau[golygu | golygu cod]

  • Thomas Challoner, A Booke of Sundrye and Divers Noats of Evidence, of Times, and Wyttnesses, of Cheshire, Lancashire, Cymru etc.' (1592)
  • W. J. Hemp, "Two Welsh Heraldic Pedigrees, with Notes on Thomas Chaloner, Ulster King of Arms", Y Cymmrodor 40
  • Anthony R. Wagner, A Catalogue of English Mediaeval Rolls of Arms (Llundain, 1950).