Thomas Carey-Evans

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Thomas Carey-Evans
Priodas-Miss-Lloyd-George.jpg
Priodas Thomas & Olwen Carey Evans
Ganwyd 6 Mehefin 1884 Edit this on Wikidata
Blaenau Ffestiniog Edit this on Wikidata
Bu farw 25 Awst 1947 Edit this on Wikidata (63 oed)
Pentrefelin Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaeth llawfeddyg, Milwr Edit this on Wikidata
Gwobr/au Marchog Faglor, Croes filwrol Edit this on Wikidata

Roedd yr Uwchgapten Dr Syr Thomas John Carey Evans MC MD FRCS (6 Mehefin 188425 Awst 1947) yn llawfeddyg Cymreig a wasanaethodd fel meddyg yn y fyddin Brydeinig yn India ac fel arolygydd cyntaf yr Ysgol Feddygol Ôl-raddedig Prydeinig, pan sefydlwyd yr ysgol yn Ysbyty Hammersmith, Llundain.[1].

Bywyd Personol[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganwyd Carey Evans ym Mlaenau Ffestiniog yn fab i Dr Robert Davies Evans, meddyg teulu ac Elizabeth née Jones ei wraig. Roedd Elizabeth yn chwaer i'r meddyg Syr Robert Armstrong-Jones.

Graddiodd ym Mhrifysgol Caerdydd gan fynd ymlaen i ddysgu bod yn feddyg ym Mhrifysgol Glasgow ac yna Ysbyty St Bartholomew's Llundain[2]. Parhaodd ei astudiaethau meddygol ym Mrwsel ac yn Fiena.

Teulu[golygu | golygu cod y dudalen]

Ym 1917 priododd Olwen Elizabeth, merch hynaf y Gwir Anrhydeddus David Lloyd George[3], a oedd yn gwasanaethu fel Prif Weinidog ar y pryd. Bu iddynt dwy ferch a dau fab - Margaret, Eluned, Robert a David[4].

Eluned oedd mam Margaret MacMillan, hanesydd a warden Coleg St Antwn, Rhydychen. Mae Margaret yn Nain i'r hanesydd a'r darlledwr Dan Snow[5].

Meddyg chwarel yr Oakley[golygu | golygu cod y dudalen]

Wedi cymhwyso fel meddyg aeth i weithio gyda'i dad ym Mlaenau Ffestiniog hyd 1909. Tra yn y Blaenau cyflawnodd triniaeth lawfeddygol hynod iawn yn Ysbyty Chwarel yr Oakley ym 1905. Bu'n trin chwarelwr a gawsai ddamwain mewn ffrwydrad yn y chwarel gan gael clwyf mawr ar ochr dde ei dalcen. Dinistriwyd ei lygad dde, ac roedd peth o'i ymennydd ar ei rudd dde. Tynnodd y meddyg ifanc darn mawr o lechan allan o ymennydd y claf, tra fo'r claf yn parhau i fod yn ymwybodol. Efallai mai'r digwyddiad hwn oedd un o'r enghreifftiau cyntaf o glaf yn goroesi colli rhan o labed flaen ei ymennydd[6]

Gwasanaeth Milwrol[golygu | golygu cod y dudalen]

Ymunodd a 7fed Bataliwn, y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig, ym 1908 fel is-gapten. Ar 31 Gorffennaf 1909 cafodd ei gomisiynu yn is-gapten yng Ngwasanaeth Meddygol India. Ym 1910 fe'i penodwyd yn arbenigwr llawfeddygol yn adran Lucknow. Bu yn rhan o frwydr yn Abor ar ffin Gogledd Dwyreiniol India rhwng 1911 a 1912, gan ennill Medal Gwasanaeth Cyffredinol India a chlesbyn. Cafodd ei ddyrchafu'n gapten ar 31 Gorffennaf 1912. Fe wasanaethodd fel swyddog meddygol i ymgyrch Mishin, a archwiliodd ffin Tibet a mapiodd gwrs uchaf yr afon Brahmaputra[7].

Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf bu'n gwasanaethu gyda'r Fyddin Indiaid yn Gallipoli, yn yr Aifft, ac yn Mesopotamia, lle bu'n swyddog meddygol sifil Baghdad ym 1917. Soniwyd amdano mewn cad lythyrau ar 5 Tachwedd 1915, 13 Gorffennaf 1916, ac ar 27 Awst 1918. Dyfarnwyd y Groes Filwrol (MC) iddo 3 Mehefin 1916 ac fe'i crëwyd yn Chevalier yn y Légion d'Honneur ar 24 Hydref 1919. Ym 1920 penodwyd ef yn swyddog meddygol preswyl i Wladwriaeth Mysore. Dyrchafwyd ef yn uwchgapten yng Ngwasanaeth Milwrol India ym 1921. Fe'i hurddwyd yn farchog ym 1924, ac ymddeolodd o'r fyddin ym 1926.

Llawfeddyg yn Llundain[golygu | golygu cod y dudalen]

Wedi dychwelyd o'r India bu'n gweithio fel meddyg yn Llundain gan wasanaethu fel llawfeddyg ymgynghorol yn Ysbyty afiechydon cenhedlol trwythol St Pauls.

Ym 1936 fe'i penodwyd arolygydd cyntaf yr Ysgol Feddygol Ôl-raddedig Prydeinig, pan sefydlwyd yr ysgol yn Ysbyty Hammersmith, Llundain.

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd bu'n gwasanaethu fel uwchgapten meddygol yn y Gard Cartrefol.

Marwolaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Ym 1946 ymddeolodd Syr Thomas o'i waith meddygol gan symud i fyw i fferm Eisteddfa ym Mhentrefelin, Cricieth. Bu farw o drawiad ar y galon ar y fferm blwyddyn yn ddiweddarach. Claddwyd ei weddillion ym mynwent capel Tabor Pentrefelin[8].

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Evans, Major Sir Thomas John Carey, (1884–25 Aug. 1947), late Medical Superintendent, Hammersmith Hospital; Consulting Surgeon, St Paul’s Hospital for Genito-urinary Diseases. WHO'S WHO & WHO WAS WHO adalwyd 18 Ionawr 2018
  2. "ILLWYDDIANTMEDDYGOL - Y Rhedegydd". [Jones a Roberts]. 1905-10-21. Cyrchwyd 2018-01-19.
  3. Lady Olwen Carey Evans The Times (London, England), Monday, March 05, 1990; pg. 14; Issue 63645 adalwyd 19 Ionawr 2018
  4. Sir Thomas Carey Evans." Times (London, England) 26 Aug. 1947: 6. The Times Digital Archive adalwyd 18 Ionawr 2018
  5. Behind The Facade – Service Shenanigans adalwyd 19 Ionawr 2018
  6. Cennad cylchgrawn Y Gymdeithas Feddygol Cyf. 7, rh. 1; Syr Thomas Carey Evans (1884-1947) a Thriniaeth Lawfeddygol Nodedig ym Mlaenau Ffestiniog D. Lloyd Griffiths adalwyd 18 Ionawr 2018
  7. The Royal College of Surgeons of England Evans, Sir Thomas John Carey (1884 - 1947) adalwyd 18 Ionawr 2018
  8. Geograph Bedd Syr Thomas a'r Ledi Olwen Carey-Evans adalwyd 18 Ionawr 2018